Newyddion

Canfyddiadau Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth Gogledd Iwerddon

Bydd Is-adran Gwasanaethau Dadansoddi Adran yr Economi Llywodraeth Gogledd Iwerddon yn cynnal digwyddiad lansio ar ganfyddiadau Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth Gogledd Iwerddon (SES). Yr Athro Alan Felstead a Rhys Davies o dîm ymchwil SES bydd yn cyflwyno canfyddiadau’r adroddiad sydd i ddod, sef Going Beyond Pay: Job Quality in Northern Ireland – Results from the…

YDG Cymru a Shelter Cymru yn cyhoeddi secondiad cyffrous newydd i gryfhau ymchwil digartrefedd yng Nghymru

Mae’n bleser gan YDG Cymru a Shelter Cymru gyhoeddi secondiad newydd ac arloesol, sy’n gweld Ffion Chant o Shelter Cymru yn ymuno â thîm ymchwil Tai a Digartrefedd YDG Cymru tan 2026. Mae’r cydweithrediad hwn yn arwyddocaol am mai dyma’r tro cyntaf i rywun o sefydliad trydydd sector gael ei secondio i YDG Cymru, gyda’r nod o gaffael ac…

Cynhadledd Flynyddol WISERD 2025

Ar 30 Mehefin ac 1 Gorffennaf, cynhaliwyd 15fed Gynhadledd Flynyddol WISERD ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan groesawu dros 130 o gynrychiolwyr. Roedd yr agenda’n cynnwys 14 sesiwn bapur, dau banel, a thri symposiwm a gweithdy o dan y thema ‘Cyfranogiad a phartneriaeth mewn cyfnod o ansicrwydd a pholareiddio’. Am y tro cyntaf erioed, bydd yr amserlen…

Gwleidyddiaeth Rasys Ceffylau: Ychwanegu Elfennau Gêm at Ymgysylltu Gwleidyddol

Mae Horse Race Politics (HRP) yn blatfform arloesol sy’n galluogi defnyddwyr i ragweld canlyniadau digwyddiadau gwleidyddol mewn cyd-destun cystadleuol ag elfennau gêm wedi’u hychwanegu ato. Mae HRP yn cael ei arwain gan ddau academydd yn WISERD, sef Dr Matthew Wall a Dr Louis Bromfield (ill dau o Adran Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol Prifysgol Abertawe),…

Mae angen ystyried nodweddion unigol ac amgylchiadau teuluol wrth ganfod anghenion addysgol arbennig, yn ôl ymchwil

Mae nodweddion a chefndir teuluol plentyn yn ddangosyddion pwysig sy’n dangos a yw’n fwy tebygol o fod ag anghenion addysgol arbennig (AAA), yn ôl casgliad astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd. Dadansoddodd yr academyddion ddata o 284,010 o ddisgyblion ysgol yng Nghymru. Roedd bechgyn, disgyblion o ethnigrwydd Gwyn, disgyblion a oedd yn absennol yn barhaus, y rheini…

Disability@Work gwahoddiad i gyflwyno tystiolaeth i Senedd Cymru

Gan dynnu ar eu cyflwyniadau tystiolaeth ysgrifenedig rhoddodd yr Athro Melanie Jones a Victoria Wass dystiolaeth lafar i’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar y rhwystrau i gyflogaeth i bobl anabl. Yn ystod y drafodaeth fe wnaethant dynnu sylw at yr argymhellion yn y Siarter Cyflogaeth Anabledd, galw am fonitro a dadansoddi mesurau ehangach anghydraddoldeb…

Astudiaeth Aml-Garfan Addysg WISERD: 11eg Arolwg Blynyddol

Yma, rydym yn darparu crynodeb o ganfyddiadau allweddol yr 11eg arolwg (2022-23). Mae’r pynciau yn cynnwys ymddiried yn yr ysgol, hyder disgyblion, Cymraeg, gwisg ysgol, pryderon hinsawdd, gwleidyddiaeth a’r frenhiniaeth, streiciau a phrotestiadau diweddar, methu allan ar deithiau ysgol, a dyheadau disgyblion.                   Darllenwch yr adroddiad.

Y gorffennol yn y presennol: Ystyried gwaith codi glo a streic y glowyr yn 1984-85

Ar 2 Mawrth 2024, cafodd y 40 mlynedd ers streic y glowyr ei nodi mewn cynhadledd WISERD yn Adeilad Bute, Prifysgol Caerdydd, gydag ymgyrchwyr, undebwyr llafur, ymchwilwyr a chynhyrchwyr ffilmiau’n bresennol. Agorwyd y gynhadledd drwy ddangos y ffilm, Breaking Point, a wnaed ac a gyflwynwyd gan y cyfarwyddwr enwog o Sweden, Kjell-Åke Andersson. Gwnaed y…

Pen rheswm / gwrando’r galon: Darlunio Dyfodol Cymru

Arddangosfa yn Y Bandstand, Aberystwyth 13 –15 Ebrill 2023 Hon oedd yr arddangosfa gyntaf yn gysylltiedig â’n prosiect sy’n defnyddio ffotograffiaeth i ddeall sut mae pobl yn meddwl am annibyniaeth yng Nghymru, yr Alban a Chatalwnia. I’r cenhedloedd hyn, byddai annibyniaeth yn golygu gadael y wladwriaeth maen nhw’n perthyn iddi ar hyn o bryd (y…