Newyddion

Cynhadledd Flynyddol WISERD 2025

Ar 30 Mehefin ac 1 Gorffennaf, cynhaliwyd 15fed Gynhadledd Flynyddol WISERD ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan groesawu dros 130 o gynrychiolwyr. Roedd yr agenda’n cynnwys 14 sesiwn bapur, dau banel, a thri symposiwm a gweithdy o dan y thema ‘Cyfranogiad a phartneriaeth mewn cyfnod o ansicrwydd a pholareiddio’. Am y tro cyntaf erioed, bydd yr amserlen…

Yr Athro Irene Hardill o Brifysgol Northumbria yw prif siaradwr Cynhadledd Flynyddol WISERD 2025

Rydyn ni wrth ein boddau’n cyhoeddi mai’r prif siaradwr ar gyfer Cynhadledd Flynyddol WISERD 2025 yw’r Athro Irene Hardill o Brifysgol Northumbria. Bydd prif gyflwyniad yr Athro Hardill yn trin a thrafod sut y gwnaeth pandemig COVID-19 ddangos rôl hanfodol cymdeithas sifil ac elusennau wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldebau ac anghenion heb eu diwallu….

Cofrestru ar gyfer Cynhadledd Flynyddol WISERD

Rydyn ni’n falch o gyhoeddi bod y wefan i archebu eich tocynnau rhad ac am ddim ar gyfer Cynhadledd Flynyddol WISERD 2025 bellach AR AGOR! Mae’r gynhadledd yn cael ei chynnal Ddydd Llun 30 Mehefin – Dydd Mawrth 1 Gorffennaf ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cadwch eich lle yma: Cynhadledd Flynyddol WISERD | Prifysgol Aberystwyth Dewiswch yr…

Mynd i’r afael â heriau mwyaf argyfyngus cymdeithas

Ymchwil yn ystyried sut y gall cymunedau gydweithio i sicrhau newid cadarnhaol. Bydd academyddion yn ymchwilio i sut mae dinasyddion, sefydliadau cymdeithas sifil a llunwyr polisïau’n cydweithio i fynd i’r afael â rhai o broblemau mwyaf dybryd cymdeithas. Mae WISERD wedi sicrhau £1.6m o gyllid gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol UKRI (ESRC) ar gyfer…

WISERD yn croesawu Athro Gwadd Leverhulme

Mae’n bleser gennyn ni gyhoeddi bydd y cymdeithasegydd diwylliannol, yr Athro Michèle Lamont, o Brifysgol Harvard yn ymweld â WISERD rhwng 24 a 26 Mawrth, yn rhan o’i rôl yn Athro Gwadd Leverhulme. Bydd y rhaglen o ddigwyddiadau yn cynnwys cyflwyniad a gweithdy gyda’r nos ym Mhrifysgol Caerdydd cyn i’r Athro Lamont deithio i Brifysgol…

Cynhadledd Flynyddol WISERD 2025 – galw am bapurau – dyddiad cau ESTYNEDIG

Cynhelir Cynhadledd Flynyddol WISERD eleni ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Llun 30 Mehefin a dydd Mawrth 1 Gorffennaf 2025. Thema’r gynhadledd yw ‘Cyfranogiad a phartneriaeth mewn cyfnod o raggaredd a pholareiddio’. Mae’r thema ar gyfer Cynhadledd Flynyddol WISERD 2025 yn rhoi sylw i bryderon cyffredinol ynghylch rôl cymdeithas sifil mewn cyfnod o anfodlonrwydd a newid cymdeithasol,…

Achosion marwolaethau ymhlith pobl sy’n profi digartrefedd yng Nghymru

Mae Cip ar Ddata newydd o thema ymchwil Tai a Digartrefedd YDG Cymru yn cyflwyno canfyddiadau ymchwil i achosion sylfaenol marwolaeth ymhlith pobl sy’n profi digartrefedd yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae’r brif ffynhonnell wybodaeth ar y pwnc hwn yng Nghymru yn dod o amcangyfrifon blynyddol a gynhyrchir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Diben y dadansoddiad yn y…

Cynhadledd Flynyddol 2024 WISERD

Ar y 3ydd a’r 4ydd o Orffennaf, fe wnaethon ni gynnal ein Cynhadledd Flynyddol WISERD 2024 ym Mhrifysgol De Cymru a chroesawu dros 140 o gynadleddwyr o bob cwr o’r DU a’r tu hwnt. Daeth dros 100 o bosteri a chyflwyniadau ardderchog at ei gilydd o dan y thema eleni, sef ‘Anelu at gyflawni cymdeithas…