Newyddion

Achosion marwolaethau ymhlith pobl sy’n profi digartrefedd yng Nghymru

Mae Cip ar Ddata newydd o thema ymchwil Tai a Digartrefedd YDG Cymru yn cyflwyno canfyddiadau ymchwil i achosion sylfaenol marwolaeth ymhlith pobl sy’n profi digartrefedd yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae’r brif ffynhonnell wybodaeth ar y pwnc hwn yng Nghymru yn dod o amcangyfrifon blynyddol a gynhyrchir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Diben y dadansoddiad yn y…

Cynhadledd Flynyddol 2024 WISERD

Ar y 3ydd a’r 4ydd o Orffennaf, fe wnaethon ni gynnal ein Cynhadledd Flynyddol WISERD 2024 ym Mhrifysgol De Cymru a chroesawu dros 140 o gynadleddwyr o bob cwr o’r DU a’r tu hwnt. Daeth dros 100 o bosteri a chyflwyniadau ardderchog at ei gilydd o dan y thema eleni, sef ‘Anelu at gyflawni cymdeithas…

Fideo WISERD

Mae ein fideo WISERD newydd yn ddiweddariad ar waith WISERD, gan gynnwys ein rhwydweithiau ymchwil, prosiectau cydweithredol gyda phartneriaid a’n hymrwymiad i feithrin capasiti a hyfforddiant. Bydd hefyd yn rhoi cipolwg byr ar rywfaint o’n hymchwil bresennol a’i effaith ar gymdeithas, a’n gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.   Fideo hyd llawn     Fideo rhagolwg…

Cynhadledd Flynyddol WISERD 2023

Ar y 28ain a’r 29ain o Fehefin, daeth dros 120 o gynrychiolwyr, cyflwynwyr ac arddangoswyr ynghyd ym Mhrifysgol Bangor ar gyfer Cynhadledd Flynyddol WISERD eleni. Thema eleni yw ‘Cymdeithas sifil a llywodraethu mewn oes o argyfwng’. Daeth cydweithwyr o bum prifysgol bartner WISERD a mwy ynghyd, a thros gyfnod o ddau ddiwrnod prysur, cyflwynwyd bron…

Llwyddiant grant ymchwil i bartneriaeth rhwng academyddion ac ymarferwyr

Mae Dr Elizabeth Woodcock yn Gymrawd Ymchwil ar brosiect ymchwil Cymuned Ymarfer Rhagnodi Cymdeithasol. Arweinir y prosiect hwn gan Dr Koen Bartels, Athro Cyswllt yn y Sefydliad Llywodraeth Leol (Inlogov), Prifysgol Birmingham. The Active Wellbeing Society yw’r prif bartner ymchwil, sef Cymdeithas Budd Cymunedol a sefydlwyd yn 2017 gan Wasanaeth Lles Cyngor Dinas Birmingham. Meithrin…

Gallai pobl ifanc sy’n postio cynnwys cyfryngau cymdeithasol yn ddyddiol ac sydd mewn cysylltiad rheolaidd â ffrindiau ‘rhyngrwyd yn unig’ fod mewn perygl o ddioddef lles gwaeth

Mae Dr Emily Lowthian yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe yn yr Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Cyflwynodd Emily ei hymchwil gyda Dr Rebecca Anthony, a Georgia Fee mewn seminar amser cinio WISERD ym mis Mawrth. Mae ymddygiadau cyfathrebu ar-lein, fel defnyddio cyfryngau cymdeithasol, yn aml yn cael eu derbyn yn…

Comisiynydd yn trafod rôl gwirfoddolwyr mewn taclo rhaniadau cymunedol

Caiff cyfraniad mudiadau gwirfoddol at fynd i’r afael â pholareiddio mewn cymunedau lleol ei drafod gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn Aberystwyth fis nesaf. Bydd academyddion Prifysgol Aberystwyth o Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) yn cynnal symposiwm ar y cyd â phartneriaid o Rwydwaith Astudiaethau’r Sector Gwirfoddol ddydd Mercher 24 Mai yn…