Newyddion

Papur newydd ar ffoaduriaid, hil a chyfyngiadau cosmopolitaniaeth wledig yng Nghymru ac Iwerddon

Mae Cyd-Gyfarwyddwr CWPS-WISERD, yr Athro Michael Woods, wedi cyhoeddi papur mynediad agored yn y Journal of Rural Studies sy’n edrych ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn ymgartrefu mewn tair tref fechan yng Nghymru ac Iwerddon, yn cynnwys Aberystwyth a’r Drenewydd. Mae’r papur yn adeiladu ar erthygl gynharach a oedd yn cyflwyno’r syniad o gosmopolitaniaeth wledig…

YDG Cymru yn datgelu rhaglen waith yn Senedd Cymru

Heddiw (dydd Iau 1 Rhagfyr) mae YDG Cymru wedi datgelu eu Rhaglen Waith Arfaethedig a fydd yn helpu i daflu goleuni ar y materion allweddol y mae Cymru a’r DU yn eu hwynebu. Mae Rhaglen Waith Arfaethedig YDG Cymru 2022-2026 yn amlinellu’r deg maes thematig y bydd tîm YDG Cymru yn canolbwyntio eu hymchwil arnynt…

Papur newydd yn amlygu effaith trawsnewid diwydiannol mewn ardaloedd gwledig

Mae papur newydd yn y Journal of Rural Studies yn adrodd ar ymchwil o brosiect Global-Rural yr ERC a arweiniwyd gan CWPS-WISERD i archwilio trawsnewidiad diwydiannol pentref yn nwyrain Tsieina yng nghyd-destun globaleiddio. Cyd-awduron y papur yw Cyd-Gyfarwyddwr CWPS-WISERD, yr Athro Michael Woods, ynghyd â chyn-ôl-ddoethur CWPS-WISERD, Dr Francesa Fois (sydd bellach ym Mhrifysgol Salford),…

20fed Penblwydd Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol ESRC

I ddathlu 20 mlynedd o Ŵyl Gwyddorau Cymdeithasol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), cynhaliodd WISERD ddau digwyddiad yn yr Ŵyl eleni, gyda’r nod o dynnu sylw at un o’n prosiectau ymchwil addysg parhaus ac adnodd data defnyddiol sy’n ein helpu i ddeall ein trefi a’n hardaloedd lleol yn well. Dechreuon ni gyda gweminar…

Llyfr newydd gan WISERD ar gymdeithas sifil mewn oes o ansicrwydd

Mae llyfr newydd a olygwyd gan Paul Chaney ac Ian Rees Jones yn cyflwyno canfyddiadau gwreiddiol ac yn casglu elfennau craidd theori i dynnu sylw at rai o’r heriau dybryd sy’n wynebu cymdeithas sifil. Dyma’r gyfrol olygedig ddiweddaraf i’w chyhoeddi fel rhan o gyfres llyfrau Civil Society and Social Change gyda Policy Press ac mae’n…

Trafod ac ymdrin â materion hil a hiliaeth: Arolwg WMCS yn datgelu gwahaniaethau mawr rhwng ysgolion yng Nghymru

Ym mis Hydref 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai dysgu proffesiynol gwrth-hiliol yn orfodol i bob athro ysgol yng Nghymru fel rhan o Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru. Mae tystiolaeth o gasgliad diweddaraf Astudiaeth Aml-garfan Addysg WISERD (WMCS) yn awgrymu bod gwir angen hyfforddiant cyffredinol a gorfodol o’r fath. Yn ystod haf 2022, gofynnwyd i 1,100…

Trafod cryfhau democratiaeth yng Nghymru mewn cynhadledd am y cyfryngau

Bydd Cyd-Gyfarwyddwr CWPS-WISERD yn trafod sut i gryfhau democratiaeth yng Nghymru mewn cynhadledd amlwg ynghylch y cyfryngau yr wythnos hon. Cynhelir ‘Lleisiau’r Dinasyddion, Newyddion y Bobl: Sicrhau bod y Cyfryngau’n Gweithio dros Gymru’ yn y Sefydliad Materion Cymreig yng Nghaerdydd ddydd Iau 17 Tachwedd, ac mae’n cynnwys areithiau o bwys gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau…