Newyddion

Charting the Impact and Legacy of the Great Homeworking Experiment

In this blog post Alan Felstead of Cardiff University discusses the publication of his new book Remote Working: A Research Overview.  The book provides an accessible overview of the history of remote working and the impact of the massive shifts in the location of work that have occurred because of the global pandemic. One of the…

Dr Igor Calzada ar restr o 100 o’r Academyddion Mwyaf Dylanwadol yn y Llywodraeth

Mae Dr Igor Calzada yn ymddangos ar restr Apolitical o 100 o’r Academyddion Mwyaf Dylanwadol yn y Llywodraeth. Gwahoddwyd gweision sifil i enwebu’r academyddion sydd fwyaf dylanwadol i waith y llywodraeth. Mae gwaith Dr Calzada yn plethu trawsnewidiadau digidol, trefol a gwleidyddol, gan roi sylw arbennig i lywodraethau rhanbarthol ar 1. dinasyddiaeth dinas glyfar, 2. meincnodi…

Llyfr newydd ar weithio o bell

Bydd llyfr yr Athro Alan Felstead ar leoliadau gwaith sy’n newid, yn cael ei gyhoeddi ar 21 Ionawr. Mae gweithio gartref wedi dod yn gwbl amlwg yn fyd-eang dros y ddwy flynedd ddiwethaf, wrth i wleidyddion gynghori ac weithiau roi cyfarwyddyd, y dylai’r rheini sy’n gallu, weithio gartref, er mwyn lleihau lledaeniad coronafeirws. Mae Gweithio…

Cynhadledd Flynyddol WISERD 2022 – Galwad am Bapurau

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod y galwad am bapurau nawr AR AGOR ar gyfer Cynhadledd Flynyddol WISERD 2022. Cynhadledd Flynyddol WISERD 2022 Prifysgol Abertawe   Dydd Mercher 6 Gorffennaf a dydd Iau 7 Gorffennaf 2022 Thema ein Cynhadledd Flynyddol yw ‘Cymdeithas sifil a chymryd rhan: materion cydraddoldeb, hunaniaeth a chydlyniant mewn tirwedd gymdeithasol sy’n newid‘….

Lansio adnodd newydd i helpu pobl i gael y bywyd gorau posibl gyda dementia

Mae profiadau miloedd o bobl y mae dementia yn effeithio arnynt wedi cael eu defnyddio i greu adnodd newydd sydd â’r nod o fod yn ganllaw cynhwysfawr i gefnogi pobl i gael y bywyd gorau posibl gyda’r cyflwr. Mae ystod eang o gyngor, adnoddau a phrofiadau pobl wedi’u cynnwys ym Mhecyn Cymorth Byw gyda Dementia,…

Galwad am Bapurau – Rhwydwaith Ymchwil Mudo Cymru: Symposiwm Ymchwilydd Gyrfa Cynnar ac Ôl-raddedig

Mae Rhwydwaith Ymchwil Mudo Cymru yn falch o gyhoeddi symposiwm undydd (19eg Ionawr 2022) ar gyfer ôlraddedigion ac ymchwilwyr gyrfa ynnar (hunan-ddiffiniedig) sy’n gweithio ar agweddau ar fudo yng N ghymru neu wedi’u lleoli mewn sefydliadau yng Nghymru. Nod y symposiwm ar-lein yw darparu awyrgylch cefnogol i ymchwilwyr rannu eu syniadau ar waith drafft a derbyn sylwadau adeiladol….

Trafodaeth Genedlaethol am Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

Yn y rhifyn diweddaraf o The Welsh Agenda mae Dr Anwen Alias, cyd-gyfarwyddwr WISERD, Matthew Jarvis,  aelod o Fwrdd Gweithredol CWPS, a Mike Corcoran a Noreen Blanluet yn trafod ar ba ffurf y dylid cynnal trafodaeth genedlaethol ynglŷn â dyfodol cyfansoddiadol Cymru. Mae’r drafodaeth yn seiliedig ar y prosiect ‘Dyfodol Cyfansoddiadol’ sydd wedi’i leoli ym Mhrifysgol…

Un o gyd-gyfarwyddwr WISERD wedi’i phenodi’n aelod o’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

Mae Dr Anwen Elias, cyd-gyfarwyddwr WISERD ac arbenigwr ar wleidyddiaeth diriogaethol a chyfansoddiadol o Brifysgol Aberystwyth, wedi’i phenodi’n Gomisiynydd i’r Comisiwn Annibynnol newydd ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Roedd y Dr Elias, Darllenydd mewn Gwleidyddiaeth yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ymhlith y naw unigolyn a benodwyd yn y cyhoeddiad a wnaed yn y Senedd heddiw gan…