Newyddion

Adeiladu gwerth cymdeithasol yng Nghymru: sut mae caffael cymdeithasol yn newid adeiladu

Mae’r diwydiant adeiladu yng Nghymru yn darparu mwy nag adeiladau a seilwaith yn unig; mae hefyd yn darparu cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth i bobl sy’n wynebu rhwystrau i gyflawni eu potensial llawn. Jemma ydw i, ymchwilydd yn WISERD ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae fy ymchwil yn archwilio sut mae’r diwydiant adeiladu yng Nghymru yn creu…

Mae YDG Cymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr glodfawr y Gwasanaeth Sifil

Mae tîm YDG Cymru o fewn Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr y Gwasanaeth Sifil, un o’r anrhydeddau mwyaf uchel eu parch sy’n cydnabod rhagoriaeth ar draws Gwasanaeth Sifil y DU. Mae Gwobrau’r Gwasanaeth Sifil yn dathlu cyflawniadau rhagorol ar draws y llywodraeth, gan arddangos unigolion ysbrydoledig a phrosiectau arloesol sy’n darparu manteision gwirioneddol…

Ymchwil newydd ar system fudd-daliadau ‘seiliedig ar hawliau’ Cymru

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae pwyllgorau seneddol olynol wedi argymell ehangu’r system fudd-daliadau ddatganoledig yng Nghymru. Yn 2024, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru mai ei nod oedd: ‘Dull tosturiol a chyson sy’n canolbwyntio ar y person o ddylunio a darparu budd-daliadau yng Nghymru, wedi’i ategu gan egwyddorion Siarter Budd-daliadau Cymru‘ – yn cynnwys tosturi, cydraddoldeb a hawliau…

WISERD yn cydweithio â Strike Map i integreiddio data newydd ar gryfder undebau

Mewn cydweithrediad newydd cyffrous, mae data UnionMaps WISERD wedi’u hintegreiddio i Strike Map, map o weithredu diwydiannol sy’n cael ei ysgogi a’i ariannu gan weithwyr, sydd wedi mapio 230,000 o streiciau ers 2020. Bydd ymarferoldeb cyfunol y ddau blatfform yn caniatáu i ddefnyddwyr weld cryfder undebau yn yr ardaloedd lle mae gweithredu diwydiannol yn digwydd….

YDG Cymru yn Sicrhau Cyllid Mawr i Barhau ag Ymchwil Data Hanfodol Hyd at 2031

Mae YDG Cymru wedi cael bron i £26 miliwn i barhau â’i waith arloesol gan ddefnyddio data gweinyddol i lywio polisi cyhoeddus a gwella bywydau ledled Cymru. Bydd y cyllid yn rhedeg o 2026-2031 a chafodd ei gyhoeddi’n swyddogol heddiw gan y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS yn ystod ei anerchiad i gynrychiolwyr yng Nghynhadledd…

Gall datganoli a chymdeithas sifil helpu i greu gwrth-naratif ar gyfer ceiswyr lloches

Ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn y DU Ym mis Mawrth eleni, roedd dros 100,000 o bobl yn ceisio lloches yn y DU. Roedd 30% o’r bobl hyn yn byw mewn gwestai, gyda phob un wedi’u gwahardd rhag gweithio ac yn derbyn £7 y dydd i dalu am anghenion sylfaenol. Mae’r DU wedi cael dros 3,000…