Mae YDG Cymru wedi cyhoeddi’r cyntaf mewn cyfres o Fewnwelediadau Data sy’n darparu tystiolaeth newydd ar allu yn y Gymraeg, sut mae’n cael ei drosglwyddo ar draws cenedlaethau a sut mae’n dylanwadu ar addysg a chanlyniadau gyrfa gynnar.
Wedi’i gynnal gan dîm Sgiliau a Chyflogadwyedd YDG Cymru gan ddefnyddio data cyfrifiad a data gweinyddol cysylltiedig, mae’r ymchwil yn ceisio llywio dadleuon polisi allweddol ynghylch targedau’r iaith Gymraeg a sut mae gallu iaith ochr yn ochr â chefndir dosbarth cymdeithasol yn llunio dewisiadau prifysgol a gyrfaoedd cynnar myfyrwyr Cymru.
Mae’r saith Mewnwelediad Data, a fydd yn cael eu cyhoeddi dros y tair wythnos nesaf, yn archwilio’r pynciau canlynol:
- Pwy sy’n siarad Cymraeg? – Mae’r Mewnwelediad Data hwn yn tynnu sylw at wahaniaethau yn y ffordd y mae sgiliau iaith Gymraeg ymhlith pobl ifanc yn cael eu cofnodi ar draws ffynonellau data a’r anghysondebau sy’n dod i’r amlwg.
- Archwilio colled ac enillion rhwng cenedlaethau yr iaith Gymraeg – Mae’r Mewnwelediad Data hwn yn archwilio sut mae’r iaith Gymraeg yn cael ei throsglwyddo rhwng cenedlaethau a rôl addysg wrth dyfu’r iaith.
- Dilysu mesurau o ddefnydd yr iaith Gymraeg – Mae’r Mewnwelediad Data hwn yn archwilio pa fesurau o allu yn yr iaith Gymraeg sydd â’r cysylltiad cryfaf â dewis pobl ifanc i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol.
- Pwy sy’n astudio yn y Gymraeg?– Mae’r Mewnwelediad Data hwn yn gofyn sut mae myfyrwyr sy’n dewis astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol yn amrywio o ran cyrhaeddiad addysgol blaenorol, amddifadedd a chefndir dosbarth cymdeithasol.
- A ddylwn i aros neu a ddylwn i fynd? – Mae’r Mewnwelediad Data hwn yn archwilio dewisiadau prifysgolion myfyrwyr Cymru a pha bobl ifanc sy’n gadael Cymru i astudio yn rhywle arall.
- Pwy sy’n cael swydd i raddedigion? – Mae’r Mewnwelediad Data hwn yn gofyn sut mae gallu yn y Gymraeg a dewisiadau mudo myfyrwyr Cymru yn gysylltiedig â’r tebygolrwydd o sicrhau cyflogaeth ar lefel raddedig.
- A yw’n werth siarad Cymraeg? – Mae’r Mewnwelediadau Data hyn yn gofyn sut mae dewisiadau mudo myfyrwyr Cymru yn gysylltiedig â’u henillion ar ôl graddio, a sut y gallai gallu yn y Gymraeg effeithio ar ragolygon enillion y rhai sy’n aros yng Nghymru.
Gyda’i gilydd, mae’r canfyddiadau’n tynnu sylw at bwysigrwydd addysg iaith Gymraeg wrth gynnal a thyfu’r iaith ymhlith siaradwyr Cymraeg a’r rhai o gefndiroedd di-Gymraeg. Mae’r ymchwil hefyd yn tynnu sylw at werth economaidd posibl sgiliau iaith Gymraeg o fewn marchnad lafur Cymru. Yr her sy’n wynebu’r grŵp yw sicrhau bod y rhai o gefndiroedd mwy difreintiedig hefyd yn elwa o’r manteision sy’n gysylltiedig â siarad Cymraeg.
This post was originally published by ADR Wales, see the original post here