Newyddion

Cyflwyniad WISERD yng Nghyngres 2019 y TUC

Ddydd Llun 9fed Medi, bydd rhai o ymchwilwyr WISERD Prifysgol Caerdydd, Steve Davies, Rhys Davies, Helen Blakely, Katy Huxley a Wil Chivers, yn cyflwyno gerbron Cyngres y TUC ganfyddiadau diweddaraf ein hymchwil i aelodau undebau llafur y deyrnas. Bydd 151ain gynhadledd flynyddol y gyngres yng Nghanolfan Brighton a bydd yno gannoedd o gynadleddwyr i gynrychioli…

WISERD holds joint international conference on the Rohingya Crisis in Bangladesh

  In cooperation with the Department of Anthropology at the University of Chittagong, Bangladesh, WISERD recently held a conference attended by 250 delegates on citizenship rights and the Rohingya crisis. This was part of a series of events stemming from a Global Challenge Research Fund project led by Professor Paul Chaney and Professor Nasir Uddin….

Cynnal 10fed Cynhadledd Flynyddol WISERD

Cynhaliwyd 10fed Cynhadledd Flynyddol WISERD ar 3 a 4 Gorffennaf yng Nghanolfan Gynadledda Medrus ym Mhrifysgol Aberystwyth. Thema’r gynhadledd eleni oedd Cymdeithas Sifil a Chymryd Rhan, a denodd y digwyddiad, sef cynhadledd y gwyddorau cymdeithasol fwyaf Cymru, dros 100 o gynadleddwyr o’r sectorau academaidd, polisi, cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector. Dechreuodd y gynhadledd gyda dwy…

Penodwyd yr Athro John Morgan i fyrddau golygyddol cyfnodolion academaidd Rwseg

Mae’r Athro John Morgan wedi’i benodi’n aelod o fyrddau golygyddol dau gyfnodolyn academaidd blaenllaw yn Rwsia. Mae’n ymuno â Sotsiologicheskie Issledovaniia (Astudiaethau Cymdeithasegol), cyfnodolyn y Sefydliad Cymdeithaseg, Academi Gwyddorau Rwsia, a Filosofi Zhurnal (Journal of Philosophy), sy’n cael ei gyhoeddi gan RUDN- Prifysgol Cyfeillgarwch Pobl Rwsia (RUDN-Russia People’s Friendship University). Yn gynharach eleni cyhoeddodd yr…

Cymrawd Gwadd o Sefydliad Technoleg India, Delhi, yn cyflwyno seminar WISERD ar Gymdeithas Sifil, Ffydd a Thrawsnewidiad Cymdeithasol yng nghefn gwlad India

Ar 25 Gorffennaf, daeth y Cymrawd Gwadd enwog, Dr Sarbeswar Sahoo o Sefydliad Technoleg India, Delhi, i gyflwyno seminar llawn gwybodaeth o dan y teitl: ‘“The Lord Always Shows the Way!” Women’s Narratives on Conversion and Social Transformation in Rural India’. Yn y cyflwyniad, dadansoddodd Dr Sahoo pam mae nifer fawr o fenywod llwythol yn…

Cynhadledd Flynyddol WISERD 2019 i’w chynnal ar 3ydd-4ydd Gorffennaf

Ymhen pythefnos, bydd WISERD yn cynnal ei Gynhadledd Flynyddol yng Nghanolfan Gynadledda Medrus ym Mhrifysgol Aberystwyth. Thema eleni yw Cymdeithas Sifil a Chyfranogiad. Bydd cyfle i’r cynadleddwyr drafod ymchwil arloesol, rhyngddisgyblaethol o Gymru a thu hwnt, gan ganolbwyntio ar ymagweddau at gymdeithas sifil a chyfranogiad sydd wedi’u mabwysiadu mewn ystod eang o feysydd polisi. Bydd…

Cyflwyniad economi sylfaenol yn nigwyddiad Comisiwn UK2070

  Cyflwynodd yr Athro Kevin Morgan o’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio ym Mhrifysgol Caerdydd ymchwil ar yr Economi Sylfaenol yng Nghomisiwn UK2070: Digwyddiad Rhanddeiliaid Cymru, a gynhaliwyd yn Ysgol Busnes Caerdydd ddoe. Mae Comisiwn UK2070 yn archwiliad annibynnol i anghydraddoldebau ar draws dinasoedd a rhanbarthau’r DU. Yr Arglwydd Kerslake sy’n ei gadeirio, ac fe’i sefydlwyd…

Cyflwyniad gan WISERD yng Ngŵyl y Gelli 2019

Ddydd Mawrth 28 Mai, cyflwynodd Dr Jean Jenkins ei gwaith ymchwil ar hawliau cyflogaeth yn un o wyliau llenyddiaeth enwocaf y byd. Roedd ei hanerchiad, ‘Fashion – an Industry of Gross Exploitation’, yn archwilio hanes diwydiant a ddisgrifiwyd amser maith yn ôl fel ‘diwydiant parasitig’ oherwydd bod ei weithwyr yn dioddef camdriniaeth arswydus.  Mae maes…

WISERD yng Nghynhadledd Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru

Denodd stondin arddangos WISERD lawer o ddiddordeb yng nghynhadledd flynyddol Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru yn Wrecsam heddiw. Gallwn Gyda’n Gilydd: Cynigiodd Dathliad o Gyd-gynhyrchu a Chynhwysiant yng Nghymru gyfleoedd allweddol i rwydweithio a chysylltu ein gwaith â sefydliadau o’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus. Nod y diwrnod oedd ystyried llunio polisïau a gwasanaethau ar y cyd,…

Ymchwilydd WISERD yn ennill medal Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Mae Dr Stuart Fox wedi ennill medal Dillwyn ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Maen un o dri ymchwilydd o Brifysgol Caerdydd i dderbyn gwobr am gydnabyddiaeth o waith ymchwil rhagorol ar ddechrau gyrfa. Dyfarnwyd y medalau mewn seremoni i ddathlu llwyddiannau’r byd academaidd ar 22 Mai yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a…