Newyddion

Tyfu i Fyny yng Nghymru: safbwyntiau a phrofiadau myfyrwyr ysgol

Roedd ein digwyddiad diweddar, Tyfu i Fyny yng Nghymru: safbwyntiau a phrofiadau myfyrwyr ysgol, wedi archwilio canfyddiadau diweddaraf data arolwg Astudiaeth Aml-garfan Addysg WISERD (WMCS). Dros y saith mlynedd ddiwethaf, mae’r WMCS wedi gwneud cyfraniad pwysig i ddeall bywydau pobl ifanc yng Nghymru, drwy gynnal arolwg blynyddol o dros 1,000 o bobl ifanc wrth iddyn…

Yr Athro John Morgan yn cyflwyno seminarau ym Moscow

Cyflwynodd yr Athro John Morgan, Cymrawd Emeritws Leverhulme, ddau seminar ym Moscow yn ystod mis Hydref. Roedd yr Athro Morgan ar ymweliad ymchwil â Llyfrgell Wladwriaeth Rwsia yn rhan o’i brosiect Leverhulme am UNESCO ac Asiantaethau Arbenigol eraill y Cenhedloedd Unedig a’r Rhyfel Oer Diwylliannol. Siaradodd yn gyntaf yn y Sefydliad Cymdeithaseg yn Academi Gwyddorau…

Cyflwyno canfyddiadau ‘Dyfodol Llwyddiannus i Bawb’ yn y Senedd

Yr wythnos hon, cyflwynodd Dr Nigel Newton ganfyddiadau o’n prosiect ‘Dyfodol Llwyddiannus i Bawb’ i aelodau Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r prosiect yn archwilio’r ffordd y mae’r cwricwlwm newydd yn cael ei ddatblygu mewn Ysgolion Arloesi a’r effaith bosibl ar blant o gefndiroedd difreintiedig. Mae Cwricwlwm i Gymru yn cynnig…

Gwell werthuso a chyllido i gynorthwyo ymdrechion i hyrwyddo ieithoedd lleiafrifol

Fe fyddai ymdrechion i hyrwyddo ieithoedd lleiafrifol ymysg plant a phobl ifanc yn elwa o wella’r ffordd y mae prosiectau yn cael eu gwerthuso, ac o gyllid digonol. Dyna rai o gasgliadau allweddol ymchwil i weithgareddau hyrwyddo iaith yn y gwledydd Celtaidd. Fe gynhaliodd academyddion o brifysgolion Aberystwyth a Chaeredin ymchwil ar weithgareddau mudiadau yn…

Urgent Appeals: Data and Shared Learning

WISERD researchers will continue to support the development of data repositories for strategic use within NGOs, having successfully obtained funding from the ESRC under the NGO Secondary Data Analysis Call. Dr. Jean Jenkins and Dr. Katy Huxley will build on previous work with partners the Clean Clothes Campaign (CCC), who campaign for decent work and…

WISERD yn cyhoeddi ymchwil newydd ar gymdeithas sifil, lles a llywodraethu yn Tsieina

  Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae WISERD wedi bod yn rhan o’r cynllun rhyngwladol llwyddiannus Uwch Gymrodoriaeth Newton gydag Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol Tsieina (CASS)  a ariannwyd gan yr Academi Brydeinig. Arweiniwyd y cynllun gan yr Athro Sin Yi Cheung (Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd), Dr Xiao Lin (Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol Tsieina, Beijing), yr…

Trefi Cymru’n derbyn hwb i gynllunio ar lawr gwlad

Bydd pobl sy’n gweithio ac yn gwirfoddoli mewn trefi a chymunedau ar draws Cymru’n elwa ar adnodd newydd i’w helpu i ddod o hyd i gyfleoedd yn eu hardaloedd.  Mae Deall Lleoedd Cymru yn wefan ddwyieithog a grëwyd gan dîm o ymchwilwyr yn WISERD ac a gydlynir gan Sefydliad Materion Cymru. Mae’n cyflwyno gwybodaeth am…

Hwb ariannol o £2.55 miliwn ar gyfer ymchwil i effaith eithriadau o’r ysgol yn y DU

Bydd grant newydd gan ESRC yn galluogi ymchwil amlddisgyblaethol i gael ei gynnal am y tro cyntaf i oblygiadau eithriadau o’r ysgol ar draws y DU, o dan arweiniad yr Adran Addysg ym Mhrifysgol Rhydychen. Mae’r Athro Sally Power a Chris Taylor yn rhan o dîm o ymchwilwyr sy’n gweithredu ar draws Rhydychen, Caerdydd, Caeredin,…

Penodi cyd-gyfarwyddwr WISERD yn gyfarwyddwr academaidd newydd Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) Prifysgol Caerdydd

Mae’r Athro Chris Taylor wedi’i benodi’n gyfarwyddwr academaidd newydd Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) Prifysgol Caerdydd. WISERD yw un o 10 canolfan ymchwil fydd yn adleoli i SPARK pan fydd yr adeilad newydd 12,000 metr sgwâr yn agor ei ddrysau yng ngwanwyn 2021. Fel un o’r datblygiadau mwyaf cyffrous ym maes gwyddorau cymdeithasol y…