Newyddion

Ymchwil newydd y gymdeithas sifil ar ddiwylliannau ac ieithoedd brodorol yn India

Mae’r Athro Paul Chaney a’r Athro Sarbeswar Sahoo (Sefydliad Technoleg India, Delhi) wedi cael grant Her Fyd-eang newydd gan Academi’r Gwyddorau Meddygol ac maen nhw’n dechrau prosiect sy’n edrych ar gymdeithas sifil a diwylliannau ac ieithoedd brodorol yn India. Byddan nhw’n gweithio ar y cyd â Dr Reenu Punnoose (Sefydliad Technoleg India, Palakkad). Mae’r astudiaeth…

Darlith gyhoeddus ar ddyfodol y Deyrnas Unedig

“Fydd y Deyrnas Unedig yn goroesi?” yw’r pwnc llosg gwleidyddol a fydd yn destun darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth. Traddodir ‘Fractured Union’ gan yr Athro Michael Kenny, arbenigwr ar gyfansoddiad y DU, hunaniaeth genedlaethol a gwleidyddiaeth diriogaethol. Cynhelir y ddarlith gan Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru Prifysgol Aberystwyth, yn rhan o gyfres newydd o ddigwyddiadau…

Y gorffennol yn y presennol: Ystyried gwaith codi glo a streic y glowyr yn 1984-85

Ar 2 Mawrth 2024, cafodd y 40 mlynedd ers streic y glowyr ei nodi mewn cynhadledd WISERD yn Adeilad Bute, Prifysgol Caerdydd, gydag ymgyrchwyr, undebwyr llafur, ymchwilwyr a chynhyrchwyr ffilmiau’n bresennol. Agorwyd y gynhadledd drwy ddangos y ffilm, Breaking Point, a wnaed ac a gyflwynwyd gan y cyfarwyddwr enwog o Sweden, Kjell-Åke Andersson. Gwnaed y…

Oriel luniau: Y gorffennol yn y presennol

Detholiad o luniau o’n digwyddiad pen blwydd diweddar ‘Y gorffennol yn y presennol: Ystyried gwaith codi glo a streic y glowyr yn 1984-85’ a dynnwyd gan Natasha Hirst. Mae’r rhain yn cynnwys baneri o gyfrinfeydd y NUM o faes glo’r De (ar fenthyg gan Lyfrgell Glowyr De Cymru).

Cyhoeddiad newydd ar effeithiolrwydd y bartneriaeth rhwng y trydydd sector a’r llywodraeth yng Nghymru

Mae Dr. Amy Sanders wedi cyhoeddi’r papur: A Welsh Innovation in Inclusive Governance. Examining the Efficacy of the Statutory Third Sector-Government Partnership for Engaging the Third Sector in Policymaking. Mae’r erthygl hon yn ystyried i ba raddau y mae partneriaeth Llywodraeth Cymru â’r trydydd sector yn gweithio. Datblygiad arloesol a ddeilliodd o ddatganoli yw’r bartneriaeth,…

Methiannau COVID-19 y wladwriaeth yn datgelu anghydraddoldebau sy’n seiliedig ar oedran mewn gofal iechyd: Galw am Newid Radical

Roedd penderfyniadau llywodraeth y Prif Weinidog Mark Drakeford yn ystod y pandemig dan sylw fis diwethaf yn yr Ymchwiliad Covid-19 yng Nghaerdydd. Mae’r papur sydd newydd ei gyhoeddi yn tynnu sylw at fethiannau penderfyniadau’r wladwriaeth wrth waethygu cyflyrau iechyd a gofal cymdeithasol pobl hŷn, a oedd cyn pandemig COVID-19 eisoes yn eu rhoi mewn perygl…

Hacathonau Hyb PrOPEL yn helpu rheolwyr i gymryd camau i wella ansawdd swyddi

Ym mis Chwefror 2024, cynhaliodd cyd-gyfarwyddwyr WISERD, yr Athro Alan Felstead a Rhys Davies, hacathonau yn Sheffield a Belfast ar gyfer rheolwyr adnoddau dynol sydd â diddordeb mewn gwella ansawdd swyddi ar gyfer eu timau. Trefnwyd y digwyddiadau gan Hyb PrOPEL ac roedd bron i 100 o reolwyr o amrywiaeth o fusnesau yn y sector…

Rhaglen ar ITV yn rhoi sylw i streic y glowyr rhwng 1984 a 85

Yn dilyn ein digwyddiad diweddar, ‘Y gorffennol yn y presennol: Y diwydiant glo a streic y glowyr 1984-85’ cawsom sylw ar raglen arbennig ar ITV Wales, a ddarlledwyd dydd Llun 4 Mawrth yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau 1984-85 a’u dylanwad o hyd ar economi, pobl, gwleidyddiaeth a chymunedau Cymru. Gwyliwch un o’n siaradwyr yn y digwyddiad,…

Y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn cyhoeddi ei adroddiad terfynol

Ar 17 Ionawr, yn dilyn sgwrs genedlaethol ddwy flynedd o hyd, cyhoeddodd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ei adroddiad. Roedd y cyhoeddiad yn amlinellu tri opsiwn posibl ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru: rhagor o ddatganoli, DU ffederal a Chymru annibynnol. Mae Cyd-gyfarwyddwr WISERD, Dr Anwen Elias, yn aelod o’r Comisiwn ac yn rhan…