Newyddion

Yr heriau’n wynebu Rhun ap Iorwerth cyn yr etholiadau nesa

Ganol mis Mehefin, cadarnhawyd Rhun ap Iorwerth yn arweinydd newydd Plaid Cymru. Mae’n olynu Adam Price a ymddiswyddodd yn dilyn adroddiad niweidiol a dynnodd sylw at broblemau difrifol o ran diwylliant mewnol y blaid, yn arbennig aflonyddu rhywiol, bwlio a misogynistiaeth. Blaenoriaeth ddi-oed, sydd wedi ei chydnabod gan ap Iorwerth wrth ddod i’r swydd, yw gweithredu 82 argymhelliad yn…

Mae ansawdd swyddi athrawon sy’n disgwyl arolygiad Ofsted, yn waeth yn ôl adroddiad

Mae ansawdd swyddi athrawon yn Lloegr, sy’n disgwyl arolygiad Ofsted yn y 12 mis nesaf, yn waeth a dwyster y gwaith yn uwch, yn ôl adroddiad. Dangosodd yr astudiaeth gan academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd a Choleg Prifysgol Llundain (UCL) hefyd mai prin y mae’r amodau ar gyfer gweithwyr addysgu proffesiynol wedi newid ers y pandemig…

Ymchwil WISERD newydd ar droseddau hawliau dynol yn Nwyrain Affrica yn ystod y pandemig

Yn ddiweddar, cyflwynais ymchwil WISERD newydd ar hawliau dynol yn ystod y pandemig yng Nghyngres y Gymdeithas Astudiaethau Gwleidyddol Ryngwladol yn Buenos Aires. Roedd canfyddiadau fy ymchwil yn cyd-fynd â thema’r gynhadledd ‘Gwleidyddiaeth yn Oes Argyfyngau Trawsffiniol’ ac yn archwilio sut y defnyddiodd grwpiau elitaidd gwleidyddol yn Nwyrain Affrica yr argyfwng fel esgus dros atal…

Y cyhoedd yn galw am ddiwygio democrataidd

Cynhaliwyd Darlith Flynyddol y Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, Prifysgol Aberystwyth i drafod y gobaith o ddiwygio democrataidd yn y Deyrnas Unedig. Traddodwyd y ddarlith gan yr academydd blaenllaw, yr Athro Alan Renwick, Dirprwy Gyfarwyddwr Uned y Cyfansoddiad yng Ngholeg Prifysgol Llundain, ar y testun “Do the UK Public want Democratic Reform?”. Roedd canfyddiadau ymchwil…

Tyfu i fyny yng Nghymru: llywio amseroedd ansicr | Tystiolaeth o Astudiaeth Aml-garfan WISERD Addysg

Ar ddiwedd blwyddyn ysgol 2021-22, arolygon ni bobl ifainc ym Mlynyddoedd 8, 10 a 12 am eu profiadau o ddychwelyd i’r ysgol. Mae’r pandemig wedi cyfrannu at nifer uchel o absenoldebau ysgol ac ymddygiad heriol yn yr ystafell ddosbarth a gofynnon ni i’r disgyblion am faterion yn ymwneud ag absenoldebau a sut roedden nhw’n teimlo…

Yn ôl arolwg rhyngwladol, mae llesiant goddrychol plant Cymru yn ystod y pandemig yn is na’r cyfartaledd

Yn fy mlogiau blaenorol ym mhrosiect Bydoedd Plant, edrychon ni ar effaith y pandemig ar lesiant plant Cymru mewn perthynas â’r ysgol ac a ydyn nhw’n byw mewn ardaloedd trefol neu wledig yng Nghymru. Ar gyfer y drydedd ran hon, yr olaf, rydym bellach yn troi ein sylw at y modd y mae lefel gyffredinol…

Llwyddiant grant ymchwil i bartneriaeth rhwng academyddion ac ymarferwyr

Mae Dr Elizabeth Woodcock yn Gymrawd Ymchwil ar brosiect ymchwil Cymuned Ymarfer Rhagnodi Cymdeithasol. Arweinir y prosiect hwn gan Dr Koen Bartels, Athro Cyswllt yn y Sefydliad Llywodraeth Leol (Inlogov), Prifysgol Birmingham. The Active Wellbeing Society yw’r prif bartner ymchwil, sef Cymdeithas Budd Cymunedol a sefydlwyd yn 2017 gan Wasanaeth Lles Cyngor Dinas Birmingham. Meithrin…

Yr S.S. Empire Windrush a The London Trilogy a England, Half English gan Colin MacInnes

Ar 22 Mehefin eleni, mae’n 75 mlynedd ers dyfodiad yr S.S. Empire Windrush i Brydain; yn sgil hyn, rwyf wedi fy ysgogi i ailddarllen The London Trilogy gan Colin MacInnes, sy’n cynnwys City of Spades (1957), Absolute Beginners (1959) a Mr Love and Justice (1960).  Roedd MacInnes, a fu farw ym 1976, yn awdur a…

Archwilio cyfnodau pontio i addysg ôl-orfodol yng Nghymru

Mewn Cipolwg Data newydd gan YDG Cymru, edrychodd yr ymchwilwyr Dr Katy Huxley a Rhys Davies ar y trawsnewidiadau i addysg ôl-orfodol yng Nghymru. Cysylltodd y tîm ffynonellau data addysg Cymru, gan ganiatáu iddynt nodi nodweddion sy’n gysylltiedig â’r rhai sydd, a’r rhai nad ydynt, yn pontio i ddysgu pellach. Roedd y setiau data cysylltiedig yn…