Mae Catrin yn ddarlithydd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth. Ymunodd â’r Adran ar ôl gweithio fel ymchwilydd ôl-ddoeuthurol ym Mhrifysgol Ottawa (‘Chaire de recherche sur la francophonie et les politiques publiques’). Mae hi’n arbenigwr ym maes polisi a gwleidyddiaeth iaith, mewnfudo, amlddiwylliannedd a llywodraethiant is-wladwriaethol. Mae ei gwaith wedi archwilio’r ffordd y mae llywodraethau is-wladwriaethol yn ymateb i a delio gyda mewnfudo ac amrywiaeth ieithyddol ac wedi mabwysiadu dull cymharol o ddadansoddi polisïau iaith a mewnfudo yng Nghatalwnia, New Brunswick, Quebec a Chymru. Mae Catrin wedi treulio amser fel ysgolhaig gwadd yng nghanolfan ymchwil ‘Centre de recherche interdisciplinaire sur la diversité au Québec’ yn UQAM, Montréal, a chanolfan ymchwil GRITIM ym Mhrifysgol Universitat Pompeu Fabra ym Marcelona.

Un o brif flaenoriaethau Catrin yw ymgysylltu â phartneriaid ymchwil a pholisi y tu hwnt i’w rhwydwaith academaidd uniongyrchol. Mae hyn eisoes wedi arwain at gydweithio â chymunedau anacademaidd i sicrhau bod ei hymchwil yn cael effaith gymdeithasol ac yn fwy cyffredinol er mwyn pontio’r bwlch rhwng cymunedau polisi ac academaidd.
Mae hyn wedi cynnwys paratoi papurau briffio polisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer actorion llywodraethol ac anllywodraethol yn y DU gan gynnwys Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Gartref, a’r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol a’r Adran Datblygu Rhyngwladol (fel yr oeddynt bryd hynny). Mae Catrin hefyd wedi cydweithio ag amrywiaeth o actorion llywodraethol ac anllywodraethol yn rhyngwladol i rannu enghreifftiau o arfer gorau mewn integreiddio mewnfudwyr a pholisïau iaith o Gatalwnia a Chymru.

Yn 2018, dyfarnwyd gwobr ‘Effaith Eithriadol mewn Ymchwil yn y Gwyddorau Cymdeithasol, y Celfyddydau a’r Dyniaethau i Catrin (ynghyd â Drs Elin Royles a Huw Lewis).

Catrin Wyn Edwards Bio