Prosiectau Ymchwil

Trefnu yn ôl: |
Dychwelodd eich chwiliad 16 canlyniad
Arbenigwyr, arbenigedd a gwyddoniaeth dinasyddion: astudiaeth achos o fonitro ansawdd aer

Mae dadleuon amgylcheddol yn aml yn ymwneud â gwybodaeth ac arbenigedd gymaint ag y maent am wleidyddiaeth, hawliau a chyfleoedd bywyd. Y rheswm am hynny yw bod y dystiolaeth a gynhyrchir gan y gwahanol grwpiau dan sylw yn aml yn rhan o’r ddadl. Ceir anghydfodau ynghylch yr hyn sy’n hysbys ac nad yw’n hysbys, gan…

New Emerging Citizenship Regimes

New Emerging Citizenship Regimes explores five citizenship ideal types (Pandemic, Algorithmic, Liquid, Metropolitan, and Stateless) stemming from critical/radical social innovation perspective by employing fieldwork action research in six specific city-regional cases. COVID-19 has hit European citizens dramatically, not only creating a general risk-driven environment encompassing a wide array of economic vulnerabilities but also exposing them…

Rhaniadau hunaniaeth a dinesig yn y DU

Mae Rhaniadau hunaniaeth a dinesig yn y DU yn ystyried y berthynas rhwng ffurfiau gwahanol ar hunaniaeth (anabledd, rhywioldeb, crefydd) a chyfranogiad gwleidyddol a lles. Mae’n ystyried a oes gallu gwahanol gan grwpiau hunaniaeth wrth arfer hawliau, ac esboniadau posibl ar gyfer unrhyw wahaniaethau. Y dyddiad dechrau a ddarperir yw dyddiad dechrau Canolfan Cymdeithas Sifil…

Peiriannau, platfformau a galluoedd

Mae Peiriannau, platfformau a galluoedd yn defnyddio dulliau cymysg o archwilio arwyddocâd sectorau gwahanol yn yr economi gig o fewn marchnadoedd llafur lleol, ac mae’n cynnwys astudio dewisiadau amgen cydweithredol a ffurfiau mwy amlwg o gyfalafiaeth blatfform. Y dyddiad dechrau a ddarperir yw dyddiad dechrau Canolfan Cymdeithas Sifil WISERD. Bydd gan becynnau gwaith eu dyddiadau…

Hawliau plant a phobl ifanc: strwythurau dinasyddiaeth ffurfiol ac anffurfiol

Defnyddia Hawliau plant a phobl ifanc: strwythurau dinasyddiaeth ffurfiol ac anffurfiol gymhariaeth ryngwladol o ehangu dinesig hawliau plant mewn pedair gwlad Orllewinol (gan gynnwys Cymru), a sut y gall hyn ail-gydbwyso diffygion dinesig sy’n gysylltiedig â phlentyndod. Y dyddiad dechrau a ddarperir yw dyddiad dechrau Canolfan Cymdeithas Sifil WISERD. Bydd gan becynnau gwaith eu dyddiadau…

Cymdeithas sifil, a strategaethau seiliedig ar lefydd ar gyfer datblygu cynaliadwy

Mae Cymdeithas sifil, a strategaethau seiliedig ar lefydd ar gyfer datblygu cynaliadwy’n cynnal astudiaethau polisi rhanbarthol yng Nghymru, y DU ac Ewrop ac ymchwil weithredol mewn sectorau sylfaenol penodol. Gan ddefnyddio dulliau arloesi cymdeithasol seiliedig ar lefydd, mae’n ystyried i ba raddau mae polisïau twf rhanbarthol yn canolbwyntio ar sectorau sylfaenol ac yn mynd i’r…

Meysydd newydd ar gyfer ehangu dinesig: pobl, anifeiliaid a Deallusrwydd Artiffisial (D.A.)

Mae Meysydd newydd ar gyfer ehangu dinesig: pobl, anifeiliaid a Deallusrwydd Artiffisial (D.A.) yn cynnwys ymchwil ansoddol drawswladol i ystyried pa ffactorau sy’n llunio unigoliaeth, a pherthnasau pobl â bodau nad ydynt yn bobl mewn cymdeithas sifil, gan gyfeirio at hawliau anifeiliaid a D.A. Y dyddiad dechrau a ddarperir yw dyddiad dechrau Canolfan Cymdeithas Sifil…

Economi sylfaenol, dinasyddiaeth a ffurfiau newydd ar berchenogaeth gyffredin

Mae’r Economi sylfaenol, dinasyddiaeth a ffurfiau newydd ar berchenogaeth gyffredin yn ystyried atebion seiliedig ar lefydd gan arbrofi â mecanweithiau cymdeithasol a ffurfiau sefydliadau newydd sy’n rhoi’r sail berthnasol i ddinasyddiaeth. Mae’n edrych ar sut y gall dulliau’r Economi Sylfaenol hyrwyddo enillion dinesig gan fynd i’r afael â phryderon polisi cymdeithasol ac economaidd cyfoes yn…

Ffiniau, mecanweithiau ffiniol a mudo’n

Mae Ffiniau, mecanweithiau ffiniol a mudo’n ystyried ffactorau sy’n siapio ymgysylltu cymdeithas sifil gyda mudo a ffurfiau ar ffinio drwy astudiaethau achos rhyngwladol cymharol ac ethnograffeg seiliedig ar lefydd, gan ystyried sut mae grwpiau cymdeithas sifil yn cyfleu mecanweithiau gweithredu ffiniau cymdeithasol. Y dyddiad dechrau a ddarperir yw dyddiad dechrau Canolfan Cymdeithas Sifil WISERD. Bydd…

Undebau llafur, actifiaeth llawr gwlad ac undod

Mae Undebau llafur, actifiaeth llawr gwlad ac undod yn defnyddio astudiaethau achos o Ewrop, India a’r DU i ystyried ffurfiau ar gynrychioli’r gweithwyr sy’n uniongyrchol gysylltiedig â rôl newidiol merched yn y gwaith a chymdeithas, a materion cysylltiedig enillion ac ehangu dinesig. Y dyddiad dechrau a ddarperir yw dyddiad dechrau Canolfan Cymdeithas Sifil WISERD. Bydd…

Repertoires cynnen ac ysgogi cymdeithasol: deinameg newidiol haeniadau dinesig a marchnatoli cyfiawnder cymdeithasol ym maes trawsnewid ynni

Mae Repertoires cynnen ac ysgogi cymdeithasol: deinameg newidiol haeniadau dinesig a marchnatoli cyfiawnder cymdeithasol ym maes trawsnewid ynni yn defnyddio astudiaethau achos cymharol yn y DU ac Awstralia i ystyried sut mae repertoires newydd ysgogi cymdeithasol trawswladol a alluogir gan dechnoleg yn cyfrannu at ddeinameg newidiol haeniadau dinesig mewn oes ansicr.   Bydd yn craffu…

Ffurfiau newidiol ar lywodraethu a gwleidyddiaeth llawr gwlad ymwahaniaeth

Bydd Ffurfiau newidiol ar lywodraethu a gwleidyddiaeth llawr gwlad ymwahaniaeth yn cynnal astudiaethau achos cymharol mewn rhanbarthau lle mae mudiadau ymwahaniaethol ar waith i ddeall canfyddiadau ac ymgysylltu mewn gwrthdaro ymwahaniaethol o’r gwaelod i fyny. Y dyddiad dechrau a ddarperir yw dyddiad dechrau Canolfan Cymdeithas Sifil WISERD. Bydd gan becynnau gwaith eu dyddiadau cychwyn a…

Nawddogaeth, elîtau a pherthnasau pŵer

Mae Nawddogaeth, elîtau a pherthnasau pŵer yn ystyried systemau nawddogaeth o fewn cymdeithas sifil a’r cysylltiadau rhwng cymdeithas sifil, haeniad dinesig a ffurfio elîtau. Mae’n ystyried gwreiddiau a phenllanw noddwyr mewn sefydliadau cymdeithas sifil, yn ogystal ag arwyddocâd sefydliadau addysgol gwahanol a phroffiliau galwedigaethol wrth roi mynediad breintiedig i safleoedd elît mewn cymdeithas sifil. Y…

Poblyddiaeth, gwrthdaro a pholareiddio gwleidyddol

Mae Poblyddiaeth, gwrthdaro a pholareiddio gwleidyddol yn ystyried y cysylltiadau rhwng ymddygiadau gwleidyddol newidiol a newidiadau i strwythurau cyflogaeth, yn ogystal â sut y caiff gwleidyddiaeth boblyddol ei meithrin mewn llefydd a sut y call cymdeithas sifil weithredu i fynd i’r afael â hyn. Y dyddiad dechrau a ddarperir yw dyddiad dechrau Canolfan Cymdeithas Sifil…

Anghydraddoldeb, colled ddinesig a lles

Mae Anghydraddoldeb, colled ddinesig a lles yn defnyddio dulliau arloesol, gan gynnwys arolygon drwy appiau ar symudedd gofodol a chysylltiadau data, i gymharu mesurau hygyrchedd unigol a seiliedig ar lefydd, ac ystyried sut y mae patrymau newidiol colled ac enillion dinesig yn gysylltiedig â mesurau iechyd a lles. Y dyddiad dechrau a ddarperir yw dyddiad…