Newyddion

Offeryn ar-lein newydd sy’n paru pleidleiswyr â’u plaid wleidyddol ddelfrydol

Yn ystod ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol, roedd gwybodaeth wleidyddol yn dod o bob cyfeiriad, ac roedd hyn yn achosi i lawer o bobl deimlo’n ddryslyd ynglŷn â pha bleidiau oedd yn cydweddu orau â’u barn hwy. Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem hon, mae prosiect sy’n cael ei gyd-arwain gan Brifysgol Abertawe ac yn…

Cynhadledd Flynyddol 2024 WISERD

Ar y 3ydd a’r 4ydd o Orffennaf, fe wnaethon ni gynnal ein Cynhadledd Flynyddol WISERD 2024 ym Mhrifysgol De Cymru a chroesawu dros 140 o gynadleddwyr o bob cwr o’r DU a’r tu hwnt. Daeth dros 100 o bosteri a chyflwyniadau ardderchog at ei gilydd o dan y thema eleni, sef ‘Anelu at gyflawni cymdeithas…

Llwyddiant grant ymchwil i bartneriaeth rhwng academyddion ac ymarferwyr

Mae Dr Elizabeth Woodcock yn Gymrawd Ymchwil ar brosiect ymchwil Cymuned Ymarfer Rhagnodi Cymdeithasol. Arweinir y prosiect hwn gan Dr Koen Bartels, Athro Cyswllt yn y Sefydliad Llywodraeth Leol (Inlogov), Prifysgol Birmingham. The Active Wellbeing Society yw’r prif bartner ymchwil, sef Cymdeithas Budd Cymunedol a sefydlwyd yn 2017 gan Wasanaeth Lles Cyngor Dinas Birmingham. Meithrin…

Galwad am Bapurau: Rhwydwaith Ymchwil Mudo Cymru: Symposiwm Ymchwilydd Gyrfa Cynnar ac Ôl-raddedig

Mae Rhwydwaith Ymchwil Mudo Cymru yn falch o gyhoeddi symposiwm undydd ar gyfer ôl-raddedigion ac ymchwilwyr gyrfa gynnar (hunan-ddiffiniedig) sy’n gweithio ar agweddau ar fudo yng Nghymru neu wedi’u lleoli mewn sefydliadau yng Nghymru. Nod y symposiwm ar-lein yw darparu awyrgylch cefnogol i ymchwilwyr rannu eu syniadau ar waith drafft a derbyn sylwadau adeiladol. Bydd…

Chweched Cynhadledd yr Economi Sylfaenol: Archwilio’r Economi Sylfaenol ar gyfer Pontio Cyfiawn

14-16 Medi 2023 Prifysgol Technoleg, Fienna (TU Wien), Awstria Galwad am Bapurau a Chyfraniadau Rhwng 14 a 16 Medi 2023, byddwn yn croesawu’r 6ed Cynhadledd Economi Sylfaenol yng nghanol Fienna! Yn ystod ein cynhadledd bydd prif siaradwyr a sesiynau llawn, sesiynau cyfochrog yn ogystal â gweithgorau a theithiau cerdded yn y ddinas. Mae argyfyngau lluosog…

Llongyfarchiadau i’r Athro Mitch Langford

Llongyfarchiadau mawr i Gyd-gyfarwyddwr WISERD Mitchel Langford sydd wedi bod yn llwyddiannus yn y penodiadau Gwobrau Academaidd Uwch diweddaraf Mae Mitchel Langford wedi derbyn y teitl Athro mewn Dadansoddi Gofodol a Geo-wybodeg ym Mhrifysgol De Cymru. Mae diddordebau ymchwil Mitch yn cynnwys modelu hygyrchedd daearyddol a dadansoddi geo-ofodol ym meysydd gofal iechyd, anghydraddoldeb cymdeithasol a…

Cynhadledd Ymchwil ar Dai Cymru 2022

Ar 19 Rhagfyr, cynhaliwyd Cynhadledd Ymchwil Tai Cymru 2022 yn Adeilad Morgannwg Prifysgol Caerdydd. Roedd yn gyfle i gynrychiolwyr ddod ynghyd a rhannu tystiolaeth ymchwil o rai o’r materion mwyaf pwysig sy’n ymwneud â thai Cymru. A hithau wedi’i chynnal gan Rwydwaith Ymchwil Tai Cymru WISERD ar y cyd â Chanolfan Gydweithredol y DU ar…