Newyddion

Ymchwil newydd yn archwilio effaith datganoli ar lunio polisi cymdeithasol yng Nghymru

Mae llyfr newydd yn cynnwys ymchwil gan gyd-gyfarwyddwr WISERD, yr AthroPaul Chaney ar effaith datganoli ar lunio polisi cymdeithasol yng Nghymru. Mae “polisi cymdeithasol” yma yn cyfeirio at ymyriadau polisi’r llywodraeth i wella llesiant cymdeithasol. Mae’n cynnwys y rhan fwyaf o’r meysydd polisi a ddatganolwyd i Gymru o dan Ddeddfau datganoli olynol ers 1998, gan…

Mae adroddiad newydd yn rhoi argymhellion ar wneud gwell defnydd o ddata i lywio cyfarwyddyd gyrfaoedd yng Nghymru

Mae adroddiad diweddar a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, yn amlygu manteision a chyfyngiadau gwell defnydd o ddata i ddarparu gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru.   Comisiynodd Llywodraeth Cymru ymchwilwyr YDG Cymru i gynnal astudiaeth i archwilio’r cyd-destun polisi a deddfwriaethol y mae’r darparwr gyrfaoedd cenedlaethol, Gyrfa Cymru yn gweithredu ynddo, defnyddioldeb daliadau data Gyrfa Cymru a sefydliadau…

Cyfres Gweminar IDEAL 2022-2023

Mae IDEAL (Gwella’r profiad o ddementia a gwella bywyd egnïol: Byw’n dda gyda dementia) yn brosiect ymchwil dementia ar raddfa fawr a arweinir gan bartneriaid academaidd ym Mhrifysgol Caerwysg. Dechreuodd yn 2014 a bydd yn gorffen yn 2023. Mae WISERD wedi cyfrannu at astudiaeth IDEAL, gyda’r nod o ddeall y rhesymau pam mae ffactorau cymdeithasol…

Y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y DU: ydy maint y cwmni o bwys?

Mae papur trafod newydd gan y Sefydliad Llafur Byd-eang (GLO) gan Melanie Jones a Chymrawd GLO, Ezgi Kaya, wedi’i gyhoeddi. Mae’r papur yn canfod bod gan gwmnïau mawr fylchau cyflog llai rhwng y rhywiau a bylchau cyflog anesboniadwy tebyg rhwng y rhywiau o gymharu â chwmnïau llai. Rhagor o wybodaeth a lawrlwytho’r papur ar wefan…

Rhyddhau ffilm ‘The World Turned Upside Down’

Mae ffilm ddogfen am ddementia a chyfathrebu o’r enw ‘The World Turned Upside Down’ yn cael ei lansio heddiw (23 Medi). Daw’r ffilm o brosiect ymchwil dementia ar raddfa fawr o’r enw IDEAL (Gwella’r profiad o ddementia a gwella bywyd egnïol: Byw’n dda gyda dementia), y mae WISERD wedi bod yn rhan ohono ers ei…

Cynhadledd Flynyddol WISERD 2022

Ar 6 a 7 Gorffennaf, daeth dros 140 o gynrychiolwyr, cyflwynwyr ac arddangoswyr o bum prifysgol bartner WISERD a thu hwnt ynghyd ym Mhrifysgol Abertawe i gynnal Cynhadledd Flynyddol gyntaf WISERD ers dechrau’r pandemig. Thema’r gynhadledd eleni oedd ‘Cymdeithas sifil a chyfranogiad: materion cydraddoldeb, hunaniaeth a chydlyniant mewn tirwedd gymdeithasol sy’n newid’, a denodd dros…

Ymgysylltu ag amgylchedd dysgu rhithwir Hwb yn ystod y cyfnodau cau ysgolion oherwydd Covid-19

Mae Dogfennaeth Deall Data newydd gan Dr Alexandra Sandu a Dr Jennifer May Hampton o Labordy Data Addysg WISERD ac a gynhyrchwyd gan dîm ymchwil addysg ADR Cymru bellach ar gael: Ymgysylltu ag amgylchedd dysgu rhithwir Hwb yn ystod y cyfnod cau ysgolion oherwydd Covid-19 . Mae’r adroddiad hwn yn nodi canfyddiadau cynnar ynghylch y…