Newyddion

Plant Cymru yn llai bodlon â’r ysgol yn ystod y pandemig nag yr oeddent cyn y pandemig

Mae’r postiad blog hwn yn ail ran mewn cyfres sy’n cyflwyno canfyddiadau rhagarweiniol ar lesiant plant yng Nghymru cyn ac yn ystod pandemig Covid-19. Mae’n defnyddio data o’r Arolwg Rhyngwladol o Lesiant Plant (ISCWeB) — Bydoedd Plant, arolwg byd-eang ar les goddrychol plant, gyda’r don hon yn cynnwys 20 gwlad i gyd. Cynhaliwyd yr arolwg…

Mae ymchwilwyr WISERD yn cyflwyno eu canfyddiadau am ansawdd swyddi athrawon

Cyflwynodd Katy Huxley, Alan Felstead (WISERD) a Francis Green (UCL) ganlyniadau cyntaf eu hymchwil ar newid yn ansawdd swyddi athrawon mewn digwyddiad ymylol yng nghynhadledd flynyddol yr Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) yn Harrogate heddiw (3 Ebrill 2023). Mae’r dystiolaeth yn seiliedig ar brosiect ymchwil a gynhaliwyd gan WISERD ym Mhrifysgol Caerdydd ac UCL. Mae’r canlyniadau’n…

Ymchwil newydd yn edrych ar effeithiolrwydd arweiniad gyrfaoedd a sut mae’n cael ei flaenoriaethu

Mae ymchwil newydd a wnaed gan YDG Cymru wedi edrych ar effeithiolrwydd arweiniad gyrfaoedd wrth gefnogi cyfranogiad mewn addysg a hyfforddiant ôl-orfodol a sut caiff arweiniad gyrfaoedd ei flaenoriaethu. Defnyddiodd y gwaith, a wnaed gan ymchwilwyr YDG Cymru, Dr Katy Huxley a Rhys Davies, ddata dienw Gyrfa Cymru i archwilio sut mae’r cymorth gyrfaoedd a ddarperir i ddisgyblion cyfnod allweddol…

Arolwg rhyngwladol yn canfod bod plant mewn ardaloedd trefol yng Nghymru’n nodi gostyngiad yn eu lles cyffredinol yn ystod y pandemig

Does dim gwadu bod yr aflonyddwch i fywyd bob dydd a achoswyd gan bandemig y coronafeirws wedi cael dylanwad dwys ar les plant, gydag amryw o sefydliadau rhyngwladol (e.e. WHO, UNESCO, WFP, UNICEF) yn gofyn bod mwy yn cael ei wneud i gynorthwyo plant i ymdopi â hyn, er mwyn osgoi canlyniadau negyddol hirdymor. Yng…

20fed Penblwydd Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol ESRC

I ddathlu 20 mlynedd o Ŵyl Gwyddorau Cymdeithasol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), cynhaliodd WISERD ddau digwyddiad yn yr Ŵyl eleni, gyda’r nod o dynnu sylw at un o’n prosiectau ymchwil addysg parhaus ac adnodd data defnyddiol sy’n ein helpu i ddeall ein trefi a’n hardaloedd lleol yn well. Dechreuon ni gyda gweminar…

Trafod ac ymdrin â materion hil a hiliaeth: Arolwg WMCS yn datgelu gwahaniaethau mawr rhwng ysgolion yng Nghymru

Ym mis Hydref 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai dysgu proffesiynol gwrth-hiliol yn orfodol i bob athro ysgol yng Nghymru fel rhan o Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru. Mae tystiolaeth o gasgliad diweddaraf Astudiaeth Aml-garfan Addysg WISERD (WMCS) yn awgrymu bod gwir angen hyfforddiant cyffredinol a gorfodol o’r fath. Yn ystod haf 2022, gofynnwyd i 1,100…

Tlodi yn yr ystafell ddosbarth: Mae disgyblion ysgol yng Nghymru yn ymwybodol iawn o’r caledi a brofir gan eu cyd-ddisgyblion

Ceir pryder eang a chynyddol y bydd costau byw sydd ar gynnydd yn effeithio’n ddifrifol ar y teuluoedd a’r cymunedau tlotaf y gaeaf hwn. Roedd pethau’n o ddrwg y gaeaf diwethaf. Datgelodd adroddiad gan Sefydliad Bevan fod yn agos i bedwar aelwyd o bob 10 yng Nghymru yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd….

Ymgysylltu ag amgylchedd dysgu rhithwir Hwb yn ystod y cyfnodau cau ysgolion oherwydd Covid-19

Mae Dogfennaeth Deall Data newydd gan Dr Alexandra Sandu a Dr Jennifer May Hampton o Labordy Data Addysg WISERD ac a gynhyrchwyd gan dîm ymchwil addysg ADR Cymru bellach ar gael: Ymgysylltu ag amgylchedd dysgu rhithwir Hwb yn ystod y cyfnod cau ysgolion oherwydd Covid-19 . Mae’r adroddiad hwn yn nodi canfyddiadau cynnar ynghylch y…