Newyddion

Trefi Cymru’n derbyn hwb i gynllunio ar lawr gwlad

Bydd pobl sy’n gweithio ac yn gwirfoddoli mewn trefi a chymunedau ar draws Cymru’n elwa ar adnodd newydd i’w helpu i ddod o hyd i gyfleoedd yn eu hardaloedd.  Mae Deall Lleoedd Cymru yn wefan ddwyieithog a grëwyd gan dîm o ymchwilwyr yn WISERD ac a gydlynir gan Sefydliad Materion Cymru. Mae’n cyflwyno gwybodaeth am…

Hwb ariannol o £2.55 miliwn ar gyfer ymchwil i effaith eithriadau o’r ysgol yn y DU

Bydd grant newydd gan ESRC yn galluogi ymchwil amlddisgyblaethol i gael ei gynnal am y tro cyntaf i oblygiadau eithriadau o’r ysgol ar draws y DU, o dan arweiniad yr Adran Addysg ym Mhrifysgol Rhydychen. Mae’r Athro Sally Power a Chris Taylor yn rhan o dîm o ymchwilwyr sy’n gweithredu ar draws Rhydychen, Caerdydd, Caeredin,…

Penodi cyd-gyfarwyddwr WISERD yn gyfarwyddwr academaidd newydd Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) Prifysgol Caerdydd

Mae’r Athro Chris Taylor wedi’i benodi’n gyfarwyddwr academaidd newydd Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) Prifysgol Caerdydd. WISERD yw un o 10 canolfan ymchwil fydd yn adleoli i SPARK pan fydd yr adeilad newydd 12,000 metr sgwâr yn agor ei ddrysau yng ngwanwyn 2021. Fel un o’r datblygiadau mwyaf cyffrous ym maes gwyddorau cymdeithasol y…

Gwobr papur gorau am ymchwil ar bobl ifanc ac Ewrosgeptigaeth

Mae ymchwilwyr WISERD, Dr Stuart Fox (Prifysgol Brunel Llundain) a Dr Sioned Pearce (Prifysgol Caerdydd), wedi cael gwobr am ‘y papur gorau a gyhoeddwyd yn 2018’ gan Journal of Elections, Public Opinion and Parties, sef cyfnodolyn rhyngwladol a adolygir gan gymheiriaid sy’n cyhoeddi ymchwil wreiddiol o ansawdd uchel. Mae’r papur, “The generational decay of Euroscepticism…

WISERD yng Nghynhadledd Ymchwil Flynyddol Cyngor Cenedlaethol y Sefydliadau Gwirfoddol (NCVO)

Denodd stondin WISERD gryn ddiddordeb gan y cynadleddwyr Cafodd canfyddiadau ymchwil WISERD i gymdeithas sifil sylw amlwg yng Nghynhadledd Flynyddol Cyngor Cenedlaethol y Sefydliadau Gwirfoddol (NCVO) ym Mhrifysgol Aston yr wythnos ddiwethaf (10-11 Medi).  Cyflwynodd ymchwilwyr WISERD nifer o bapurau. Bu’r myfyriwr PhD Amy Sanders yn eu mysg, a rhannodd ganfyddiadau cychwynnol ei hymchwil ynghylch…

WISERD yn lansio gwasanaeth UnionMaps rhyngweithiol

Heddiw, mae WISERD yn cyflwyno gwasanaeth rhyngweithiol newydd sy’n galluogi defnyddwyr i weld data am aelodau undebau yn ardaloedd dros 400 o awdurdodau unedol a lleol Prydain. Mae UnionMaps yn galluogi defnyddwyr i gynhyrchu adroddiadau ardal o aelodaeth undebau ar gyfer lleoliad penodol neu edrych ar sut mae mesurau gwahanol o aelodaeth undebau yn amrywio…

WISERD i dderbyn cyllid sylweddol gan ESRC er mwyn parhau ag ymchwil cymdeithas sifil

  Mae WISERD yn un o bedair canolfan ymchwil y gwyddorau cymdeithasol yn y DU sydd wedi llwyddo yng nghystadleuaeth hynod gystadleuol Canolfannau’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC). Bydd WISERD yn cael £6.3 miliwn fel ail-fuddsoddiad i barhad ei hymchwil ar gymdeithas sifil – y trydydd tro i gyllid sylweddol gael ei ddyfarnu yn…

Cyflwyniad WISERD yng Nghyngres 2019 y TUC

Ddydd Llun 9fed Medi, bydd rhai o ymchwilwyr WISERD Prifysgol Caerdydd, Steve Davies, Rhys Davies, Helen Blakely, Katy Huxley a Wil Chivers, yn cyflwyno gerbron Cyngres y TUC ganfyddiadau diweddaraf ein hymchwil i aelodau undebau llafur y deyrnas. Bydd 151ain gynhadledd flynyddol y gyngres yng Nghanolfan Brighton a bydd yno gannoedd o gynadleddwyr i gynrychioli…