Ganol mis Mehefin, cadarnhawyd Rhun ap Iorwerth yn arweinydd newydd Plaid Cymru. Mae’n olynu Adam Price a ymddiswyddodd yn dilyn adroddiad niweidiol a dynnodd sylw at broblemau difrifol o ran diwylliant mewnol y blaid, yn arbennig aflonyddu rhywiol, bwlio a misogynistiaeth. Blaenoriaeth ddi-oed, sydd wedi ei chydnabod gan ap Iorwerth wrth ddod i’r swydd, yw gweithredu 82 argymhelliad yn…