Newyddion

Ymchwil WISERD newydd ar droseddau hawliau dynol yn Nwyrain Affrica yn ystod y pandemig

Yn ddiweddar, cyflwynais ymchwil WISERD newydd ar hawliau dynol yn ystod y pandemig yng Nghyngres y Gymdeithas Astudiaethau Gwleidyddol Ryngwladol yn Buenos Aires. Roedd canfyddiadau fy ymchwil yn cyd-fynd â thema’r gynhadledd ‘Gwleidyddiaeth yn Oes Argyfyngau Trawsffiniol’ ac yn archwilio sut y defnyddiodd grwpiau elitaidd gwleidyddol yn Nwyrain Affrica yr argyfwng fel esgus dros atal…

Y cyhoedd yn galw am ddiwygio democrataidd

Cynhaliwyd Darlith Flynyddol y Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, Prifysgol Aberystwyth i drafod y gobaith o ddiwygio democrataidd yn y Deyrnas Unedig. Traddodwyd y ddarlith gan yr academydd blaenllaw, yr Athro Alan Renwick, Dirprwy Gyfarwyddwr Uned y Cyfansoddiad yng Ngholeg Prifysgol Llundain, ar y testun “Do the UK Public want Democratic Reform?”. Roedd canfyddiadau ymchwil…

Yr S.S. Empire Windrush a The London Trilogy a England, Half English gan Colin MacInnes

Ar 22 Mehefin eleni, mae’n 75 mlynedd ers dyfodiad yr S.S. Empire Windrush i Brydain; yn sgil hyn, rwyf wedi fy ysgogi i ailddarllen The London Trilogy gan Colin MacInnes, sy’n cynnwys City of Spades (1957), Absolute Beginners (1959) a Mr Love and Justice (1960).  Roedd MacInnes, a fu farw ym 1976, yn awdur a…

Dyfarnwyd cyllid i Dr Igor Calzada gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru

Mae’r Prif Gymrawd Ymchwil, Dr Igor Calzada wedi derbyn grant gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru i fwrw ymlaen â’i ymchwil drawsddisgyblaethol yn y gwyddorau cymdeithasol ar gydweithrediad Cymru a Gwlad y Basg gyda gweithdy ar-lein ar 5 Mai. Mae Cymru a Gwlad y Basg yn rhannu rhai pethau diddorol sy’n gyffredin yn eu datblygiad, gan ganiatáu…

Chwarae teg: gallai technegau newydd helpu i gynllunio darpariaeth cyfleusterau hamdden er mwyn gwella cyfranogiad

Mae ein hastudiaethau blaenorol sy’n archwilio’r amrywiad mewn mynediad at gyfleusterau chwaraeon mewn perthynas â phatrymau economaidd-gymdeithasol yng Nghymru wedi’u seilio ar dybiaeth mai teithio preifat yw’r dull trafnidiaeth a ddefnyddir. Rydym bellach yn cynnwys pellteroedd ac amseroedd teithio ar gyfer dulliau trafnidiaeth eraill fel rhan o’n cyfrifiadau hygyrchedd. Mae’r rhain yn deillio o archwiliad…

Pen rheswm / gwrando’r galon: Darlunio Dyfodol Cymru

Arddangosfa yn Y Bandstand, Aberystwyth 13 –15 Ebrill 2023 Hon oedd yr arddangosfa gyntaf yn gysylltiedig â’n prosiect sy’n defnyddio ffotograffiaeth i ddeall sut mae pobl yn meddwl am annibyniaeth yng Nghymru, yr Alban a Chatalwnia. I’r cenhedloedd hyn, byddai annibyniaeth yn golygu gadael y wladwriaeth maen nhw’n perthyn iddi ar hyn o bryd (y…

Dr Dan Evans yn lansio llyfr newydd ‘A Nation of Shopkeepers’ yn Waterstones, Caerdydd

Ddydd Mercher 12 Ebrill, bydd Dr Dan Evans yn lansio ei lyfr newydd: ‘A Nation of Shopkeepers: The Unstoppable Rise of the Petty Bourgeoisie’  yn Waterstones, Caerdydd. Bydd Dan yn y siop yn trafod ei lyfr, a fydd ar gael i’w brynu ar y diwrnod. Mae tocynnau ar gyfer lansiad y llyfr ar gael ar…

Ymchwil ar gefnogaeth wledig i wleidyddiaeth aflonyddgar yn ennill grant Ewropeaidd sylweddol

Bydd y berthynas rhwng anfodlonrwydd etholwyr mewn ardaloedd gwledig a chefnogaeth i symudiadau gwleidyddol aflonyddgar yn Ewrop a’r Unol Daleithiau, yn destun astudiaeth o bwys gan athro o Brifysgol Aberystwyth, yn sgil dyfarnu grant uchel ei fri. Mae’r Athro Michael Woods wedi sicrhau cyllid o bron i €2.5 miliwn gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd (ERC)…

Mae’n bryd ailfeddwl beth yw gwyddoniaeth dinasyddion mewn gwirionedd

Mae gwyddoniaeth dinasyddion yn ddull poblogaidd o gasglu data ar gyfer gwyddonwyr naturiol a chymdeithasol, ac mae nifer y prosiectau a’r cyhoeddiadau a gynhyrchir yn tyfu o flwyddyn i flwyddyn. Mae prosiect gwyddoniaeth dinasyddion nodweddiadol yn defnyddio gwirfoddolwyr i gasglu data a fyddai, fel arall, yn anfforddiadwy neu’n anhygyrch. Ond, yn seiliedig ar y dystiolaeth…