Newyddion

Pen rheswm / gwrando’r galon: Darlunio Dyfodol Cymru

Arddangosfa yn Y Bandstand, Aberystwyth 13 –15 Ebrill 2023 Hon oedd yr arddangosfa gyntaf yn gysylltiedig â’n prosiect sy’n defnyddio ffotograffiaeth i ddeall sut mae pobl yn meddwl am annibyniaeth yng Nghymru, yr Alban a Chatalwnia. I’r cenhedloedd hyn, byddai annibyniaeth yn golygu gadael y wladwriaeth maen nhw’n perthyn iddi ar hyn o bryd (y…

Dr Dan Evans yn lansio llyfr newydd ‘A Nation of Shopkeepers’ yn Waterstones, Caerdydd

Ddydd Mercher 12 Ebrill, bydd Dr Dan Evans yn lansio ei lyfr newydd: ‘A Nation of Shopkeepers: The Unstoppable Rise of the Petty Bourgeoisie’  yn Waterstones, Caerdydd. Bydd Dan yn y siop yn trafod ei lyfr, a fydd ar gael i’w brynu ar y diwrnod. Mae tocynnau ar gyfer lansiad y llyfr ar gael ar…

Ymchwil ar gefnogaeth wledig i wleidyddiaeth aflonyddgar yn ennill grant Ewropeaidd sylweddol

Bydd y berthynas rhwng anfodlonrwydd etholwyr mewn ardaloedd gwledig a chefnogaeth i symudiadau gwleidyddol aflonyddgar yn Ewrop a’r Unol Daleithiau, yn destun astudiaeth o bwys gan athro o Brifysgol Aberystwyth, yn sgil dyfarnu grant uchel ei fri. Mae’r Athro Michael Woods wedi sicrhau cyllid o bron i €2.5 miliwn gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd (ERC)…

Mae’n bryd ailfeddwl beth yw gwyddoniaeth dinasyddion mewn gwirionedd

Mae gwyddoniaeth dinasyddion yn ddull poblogaidd o gasglu data ar gyfer gwyddonwyr naturiol a chymdeithasol, ac mae nifer y prosiectau a’r cyhoeddiadau a gynhyrchir yn tyfu o flwyddyn i flwyddyn. Mae prosiect gwyddoniaeth dinasyddion nodweddiadol yn defnyddio gwirfoddolwyr i gasglu data a fyddai, fel arall, yn anfforddiadwy neu’n anhygyrch. Ond, yn seiliedig ar y dystiolaeth…

Ben Bowen Thomas, Cymru, ac UNESCO

Papur newydd gan yr Athro W John Morgan, Athro Anrhydeddus, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, a Chymrawd Emeritws Leverhulme, WISERD, ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ystyried bywyd a gyrfa’r addysgwr oedolion, gwas sifil a diplomydd diwylliannol amlwg yng Nghymru, Syr Ben Bowen Thomas (1899-1977). Bu’r Athro Morgan yn Gadeirydd Comisiwn Cenedlaethol UNESCO y Deyrnas Unedig, 2010-2013. “Heb…

Chweched Cynhadledd yr Economi Sylfaenol: Archwilio’r Economi Sylfaenol ar gyfer Pontio Cyfiawn

14-16 Medi 2023 Prifysgol Technoleg, Fienna (TU Wien), Awstria Galwad am Bapurau a Chyfraniadau Rhwng 14 a 16 Medi 2023, byddwn yn croesawu’r 6ed Cynhadledd Economi Sylfaenol yng nghanol Fienna! Yn ystod ein cynhadledd bydd prif siaradwyr a sesiynau llawn, sesiynau cyfochrog yn ogystal â gweithgorau a theithiau cerdded yn y ddinas. Mae argyfyngau lluosog…

Ymchwil newydd yn edrych ar effeithiolrwydd arweiniad gyrfaoedd a sut mae’n cael ei flaenoriaethu

Mae ymchwil newydd a wnaed gan YDG Cymru wedi edrych ar effeithiolrwydd arweiniad gyrfaoedd wrth gefnogi cyfranogiad mewn addysg a hyfforddiant ôl-orfodol a sut caiff arweiniad gyrfaoedd ei flaenoriaethu. Defnyddiodd y gwaith, a wnaed gan ymchwilwyr YDG Cymru, Dr Katy Huxley a Rhys Davies, ddata dienw Gyrfa Cymru i archwilio sut mae’r cymorth gyrfaoedd a ddarperir i ddisgyblion cyfnod allweddol…

Mae popeth yn dechrau gyda hedyn…

Mae popeth yn dechrau gyda hedyn…ac felly hefyd ein hanturiaethau fel tîm ymchwil newydd sydd wedi’i leoli yn y DU a De Affrica, a ddaeth at ei gilydd drwy raglen Ffermio dros Gyfiawnder Hinsawdd 2021-2022 y British Council. Cydlynwyd y tîm gan dîm trawsddisgyblaethol o ymchwilwyr profiadol o’r Ganolfan Agro-ecoleg, Dŵr a Gwytnwch (CAWR) ym…

Mae Dr Igor Calzada yn cyflawni’n llwyddiannus ei rôl fel Ysgolhaig Fulbright yng Nghaliffornia

Mae Dr Igor Calzada, Prif Gymrawd Ymchwil yn WISERD, wedi cwblhau ei rôl fel Ysgolhaig-preswyl Fulbright (S-I-R) 2022-23 ym Mhrifysgol Talaith California, Bakersfield (CSUB) drwy Gomisiwn Fulbright yr UD-DU. Cafodd Dr Calzada ei groesawu’n ffurfiol gan y brifysgol yn ystod derbyniad ar 10 Hydref 2022 (gallwch ddarllen y cyfweliad a gynhaliwyd cyn y digwyddiad, gwylio’r…

Comparing the changing fortunes of trade unions across Great Britain

In our last blog post we looked at how WISERD’s free interactive mapping tool UnionMaps reveals the complex patterns in trade union membership that exist across Great Britain. Analysis revealed that the overall downward trend in union density that is observed across Great Britain as a whole masks very different local fortunes for the trade…