Newyddion

Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth yn cael sylw yn The Guardian

“Gweithio gartref? Mae’n gymaint mwy braf os ydych chi’n ddyn”. Dyma ddywed Emma Beddington mewn erthygl ar gyfer The Guardian, sy’n sôn bod “60% o ddynion wedi cael ystafell bwrpasol er mwyn gweithio gartref o gymharu â 40% o fenywod“, yn ôl y canfyddiadau diweddaraf o Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth 2024. (The Guardian, 01/06/25)

Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth yn ymddangos yn Financial Times

“Mae gweithwyr proffesiynol yn colli rheolaeth o’u gwaith,” meddai Sarah O’Connor mewn colofn i’r Financial Times, sy’n archwilio canfyddiadau’r Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth dan arweiniad yr Athro Alan Felstead o Brifysgol Caerdydd. (Financial Times, 27/05/25)

Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth yr Athro Alan Felstead yn y Times

Mae sylwadau gan Gyd-gyfarwyddwr y WISERD, yr Athro Alan Felstead o Brifysgol Caerdydd, am ei waith ymchwil ar yr Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth, yn ymddangos yng ngholofn y newyddiadurwr Harry Wallop yn y Times ar ôl iddo gymryd yr arolwg yn ddiweddar. (The Times, tud35, 03/05/24; The Times, 03/05/24)   Darllen pellach: Listening to employees’…

Rhaglen ar ITV yn rhoi sylw i streic y glowyr rhwng 1984 a 85

Yn dilyn ein digwyddiad diweddar, ‘Y gorffennol yn y presennol: Y diwydiant glo a streic y glowyr 1984-85’ cawsom sylw ar raglen arbennig ar ITV Wales, a ddarlledwyd dydd Llun 4 Mawrth yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau 1984-85 a’u dylanwad o hyd ar economi, pobl, gwleidyddiaeth a chymunedau Cymru. Gwyliwch un o’n siaradwyr yn y digwyddiad,…

Dr Anwen Elias yn taflu goleuni ar ymreolaeth i Corsica

Cafodd syniadau Dr. Anwen Elias ar ymreolaeth i Corsica eu cynnwys yn Nation Cymru ar 30 Medi. Bu trafodaethau am ymreolaeth Corsica yn cael eu cynnal ers 18 mis, ac mewn araith yn ddiweddar mynegodd Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron ei gefnogaeth unwaith eto i gytundeb ymreolaeth newydd. Mae Dr. Elias yn dadlau serch hynny bod y trafodaethau…

Dadansoddi Plaid Cymru yn y cyfryngau

Dadansoddiad o Blaid Cymru a’i harweinydd newydd gan gyd-gyfarwyddwr CWPS-WISERD, Dr Anwen Elias a Dr Elin Royles o Ganolfan Gwleidyddiaeth Cymru a The Conversation ar 17 Gorffennaf. Cafodd hefyd ei ailgyhoeddi yn Golwg ar 20 Gorffennaf a’r Western Mail ar 22 Gorffennaf.