Newyddion

Prifysgol Bangor yn lansio canolfan ymchwil Cymdeithas Sifil

Heddiw bydd canolfan Cymdeithas Sifil ESRC yn cael ei lansio ym Mhrifysgol Bangor: Newid Safbwyntiau ar Haeniad Dinesig a Thrwsio Sifil. Yn y lansiad, bydd Rhag Is-Ganghellor Ymchwil Prifysgol Bangor, yr Athro Paul Spencer a Chyfarwyddwr WISERD yr Athro Sally Power, Prifysgol Caerdydd, yn siarad am WISERD, ei rôl yng Nghymru a’r ffyrdd y gall…

Hanes y Sector Gwirfoddol yn dod yn fyw mewn archif ddigidol newydd

Mae WISERD wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Sefydliadau Gwirfoddol Cymru (WCVA) a Llyfrgell Genedlaethol Cymru i greu archif ddigidol ag arwyddocâd hanesyddol o Adroddiadau Blynyddol y WCVA a’r sefydliadau a’i rhagflaenodd. Rydym yn hynod o falch i allu cyflwyno’r adnodd hwn yn gyhoeddus am ddim i haneswyr cymdeithasol, ymchwilwyr a phobl gyffredinol chwilfrydig. Mae…

Mae adroddiad diweddar gan Lab Data Addysg WISERD yn dadansoddi effaith Prosiect Sbectrwm Hafan Cymru

Mae’r Prosiect Sbectrwm yn rhaglen addysgol arbenigol ar gyfer codi ymwybyddiaeth, ataliol a dwyieithog, sy’n cyflwyno sesiynau ar bob agwedd ar Berthnasoedd Iach a VAWDASV (Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol) i ddisgyblion a staff mewn ysgolion ledled Cymru. Mae’n cysylltu â blaenoriaethau Atal, Amddiffyn a Chefnogaeth a amlinellir yn Neddf a…

Mae ymchwil yn dangos pwysigrwydd Gyrfa Cymru yn ysgolion Cymru

Mae adroddiad newydd ADR-UK, Data Insight, gan Gyd-Gyfarwyddwr WISERD, Rhys Davies, yn datgelu rôl bwysig Gyrfa Cymru wrth gefnogi’r plant hynny sydd fwyaf angen arweiniad gyrfaoedd yn Ysgolion Cymru. Ar ôl tynnu cyllid ar gyfer y Connexions Network yn ôl yn 2010 – gwasanaeth arweiniad gyrfaoedd pwrpasol i bobl ifanc – mynegwyd pryderon yn Lloegr…

Ymchwilwyr yn datblygu model newydd i ddadansoddi darpariaeth lles cymdeithas sifil mewn gwledydd datganoledig

Mae astudiaeth ymchwil empirig gan Gyd-Gyfarwyddwr WISERD, yr Athro Professor Paul Chaney, Dr Christala Sophocleous a Daniel Wincott,yn cyflwyno model damcaniaethol newydd ar gyfer dadansoddi’r ffordd y mae cymdeithas sifil yn rhoi cymorth lles i ddinasyddion mewn gwledydd datganoledig. Yn rhyngwladol, systemau lles datganoledig yw’r drefn fel arfer. Mae’r ymchwil newydd hon yn ceisio archwilio ehangder y ffactorau…

Gellid gwella cynhyrchiant y DU trwy symud yn barhaol i weithio o bell, dengys ymchwil

Hoffai naw o bob deg gweithiwr sydd wedi gweithio gartref yn ystod y cyfnod clo barhau i wneud hynny i ryw raddau, mae ymchwil yn awgrymu. Mae’r adroddiad, gan academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Southampton, yn cyflwyno’r dadansoddiad cyntaf o ddata arolwg gweithwyr sy’n canolbwyntio ar weithio gartref, a gasglwyd ar gyfer Understanding Society Covid-19…

Mae astudiaeth ryngwladol yn datgelu lefelau isel o les ymysg plant yng Nghymru

Mae arolwg o 128,000 o blant ar draws 35 o wledydd yn codi cwestiynau ynghylch lefelau lles a brofir ar draws gwahanol feysydd o fywydau plant yng Nghymru. Yn ôl tîm o ymchwilwyr WISERD mae gan blant yng Nghymru rai o’r lefelau isaf o les ymysg plant ar draws 35 o wledydd. Holodd y tîm…

Ymchwil yn tynnu sylw at atal cymdeithas sifil a thorri hawliau dynol pobl LGBT+ ym Mangladesh

Mae ymchwil newydd gan Gyd-gyfarwyddwr WISERD, yr Athro Paul Chaney, Dr Sarbeswar Sahoo (Sefydliad Technoleg Indiaidd, Delhi) a Dr Seuty Sabur (Prifysgol BRAC, Dhaka) yn dadansoddi safbwyntiau sefydliadau cymdeithas sifil ar y sefyllfa gyfoes sy’n wynebu pobl LGBT+ ym Mangladesh. Er iddo gael ei anwybyddu i raddau helaeth mewn gwaith academaidd hyd yn hyn, mae’n fater sydd…

Labordy Data Addysg WISERD yn lansio cyfres blog

Mae Lab Data Addysg WISERD, sydd newydd ei sefydlu, wedi lansio cyfres o negeseuon blog i rannu ei ddadansoddiadau diweddaraf â chynulleidfa ehangach. Mae’r labordy yn bwriadu cynhyrchu tystiolaeth sy’n seiliedig ar ymchwil o safon uchel gan ddefnyddio data gweinyddol o’r sector addysg i gefnogi’r sector yng Nghymru. Er mwyn ymgymryd â’r gwaith hwn, mae…

‘Cymdeithas Sifil, Newid Cymdeithasol ac Addysg Boblogaidd Newydd yn Rwsia’ wedi’i enwebu ar gyfer gwobr Alexander Nove Cyhoeddwyd

Mae llyfr diweddar yr Athro John Morgan, Cymdeithas Sifil, Newid Cymdeithasol ac Addysg Boblogaidd yn Rwsia wedi’i enwebu gan y cyhoeddwyr Routledge ar gyfer Gwobr Alexander Nove 2020, Cymdeithas Astudiaethau Slafonic a Dwyrain Ewrop Prydain. Roedd yr Athro Nove yn hanesydd economaidd enwog o Rwsia a’r Undeb Sofietaidd. Mae’r llyfr ar gael ar ffurf clawr…