Newyddion

Mae WISERD yn lansio cyfres lyfrau Policy Press Civil Society

Ar 5 Tachwedd 2020, lansiwyd ein cyfres lyfrau Cymdeithas Sifil newydd gyda Policy Press. Mae’r gyfres newydd hon yn darparu safbwyntiau cymharol a rhyngddisgyblaethol ar natur cymdeithas sifil sy’n newid yn gyflym ar raddfeydd lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang.   Mae’r pedwar llyfr cyntaf yn tynnu ar ganfyddiadau ymchwil o Ganolfan Ymchwil y Gymdeithas Sifil ESRC flaenorol:…

Gwyliwch Gyfres Ar-lein 2020 WISERD am yr Economi Sylfaenol

Ym mis Medi 2020, cynhaliodd WISERD Gyfres Ar-lein 2020 am yr Economi Sylfaenol. Aeth y gyfres hon o ddigwyddiadau ar-lein i’r afael â chwestiynau allweddol sy’n codi o’r argyfwng COVID-19 presennol ac edrychodd ar ffyrdd y gall meddylfryd sylfaenol gyfrannu at adfer cymdeithasol ac economaidd. Roedd y gyfres yn cynnwys tair sesiwn ar-lein:   Economi…

Prifysgol Bangor yn lansio canolfan ymchwil Cymdeithas Sifil

Heddiw bydd canolfan Cymdeithas Sifil ESRC yn cael ei lansio ym Mhrifysgol Bangor: Newid Safbwyntiau ar Haeniad Dinesig a Thrwsio Sifil. Yn y lansiad, bydd Rhag Is-Ganghellor Ymchwil Prifysgol Bangor, yr Athro Paul Spencer a Chyfarwyddwr WISERD yr Athro Sally Power, Prifysgol Caerdydd, yn siarad am WISERD, ei rôl yng Nghymru a’r ffyrdd y gall…

Hanes y Sector Gwirfoddol yn dod yn fyw mewn archif ddigidol newydd

Mae WISERD wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Sefydliadau Gwirfoddol Cymru (WCVA) a Llyfrgell Genedlaethol Cymru i greu archif ddigidol ag arwyddocâd hanesyddol o Adroddiadau Blynyddol y WCVA a’r sefydliadau a’i rhagflaenodd. Rydym yn hynod o falch i allu cyflwyno’r adnodd hwn yn gyhoeddus am ddim i haneswyr cymdeithasol, ymchwilwyr a phobl gyffredinol chwilfrydig. Mae…

Mae adroddiad diweddar gan Lab Data Addysg WISERD yn dadansoddi effaith Prosiect Sbectrwm Hafan Cymru

Mae’r Prosiect Sbectrwm yn rhaglen addysgol arbenigol ar gyfer codi ymwybyddiaeth, ataliol a dwyieithog, sy’n cyflwyno sesiynau ar bob agwedd ar Berthnasoedd Iach a VAWDASV (Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol) i ddisgyblion a staff mewn ysgolion ledled Cymru. Mae’n cysylltu â blaenoriaethau Atal, Amddiffyn a Chefnogaeth a amlinellir yn Neddf a…

Mae ymchwil yn dangos pwysigrwydd Gyrfa Cymru yn ysgolion Cymru

Mae adroddiad newydd ADR-UK, Data Insight, gan Gyd-Gyfarwyddwr WISERD, Rhys Davies, yn datgelu rôl bwysig Gyrfa Cymru wrth gefnogi’r plant hynny sydd fwyaf angen arweiniad gyrfaoedd yn Ysgolion Cymru. Ar ôl tynnu cyllid ar gyfer y Connexions Network yn ôl yn 2010 – gwasanaeth arweiniad gyrfaoedd pwrpasol i bobl ifanc – mynegwyd pryderon yn Lloegr…

Ymchwilwyr yn datblygu model newydd i ddadansoddi darpariaeth lles cymdeithas sifil mewn gwledydd datganoledig

Mae astudiaeth ymchwil empirig gan Gyd-Gyfarwyddwr WISERD, yr Athro Professor Paul Chaney, Dr Christala Sophocleous a Daniel Wincott,yn cyflwyno model damcaniaethol newydd ar gyfer dadansoddi’r ffordd y mae cymdeithas sifil yn rhoi cymorth lles i ddinasyddion mewn gwledydd datganoledig. Yn rhyngwladol, systemau lles datganoledig yw’r drefn fel arfer. Mae’r ymchwil newydd hon yn ceisio archwilio ehangder y ffactorau…

Gellid gwella cynhyrchiant y DU trwy symud yn barhaol i weithio o bell, dengys ymchwil

Hoffai naw o bob deg gweithiwr sydd wedi gweithio gartref yn ystod y cyfnod clo barhau i wneud hynny i ryw raddau, mae ymchwil yn awgrymu. Mae’r adroddiad, gan academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Southampton, yn cyflwyno’r dadansoddiad cyntaf o ddata arolwg gweithwyr sy’n canolbwyntio ar weithio gartref, a gasglwyd ar gyfer Understanding Society Covid-19…