Newyddion

CWPS i arwain prosiect newydd mawr i gefnogi datblygiad cynaliadwy cynhwysol yng Nghymru Wledig

Mae tîm dan arweiniad Cyd-gyfarwyddwr WISERD-CWPS Michael Woods wedi derbyn dros £5m gan UKRI i sefydlu Cymru Wledig LPIP Rural Wales, y Bartneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol ar gyfer Cymru Wledig. Mae’r bartneriaeth yn cynnwys aelodau CWPS Lowri Cunnington Wynn a Rhys Jones yn ogystal ag ymchwilwyr ym mhrifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd a Swydd Gaerloyw…

WISERD yn cyflwyno ymchwil cymdeithas sifil i lunwyr polisïau ym Mrwsel

Ar 25 Ionawr, cynhaliwyd gweithdy gan Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) ac Addysg Uwch Cymru Brwsel (WHEB) ar gyfer llunwyr polisïau ym Mrwsel, ac fe gyflwynwyd achos dros roi ymchwil cymdeithas sifil wrth wraidd cynlluniau ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd. Yn ddiweddarach eleni, bydd aelodau’r Cyngor Ewropeaidd yn cyfarfod i gytuno…

Cyflwynwyd ymchwil Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) yn y Senedd

Ar 30 Tachwedd, cyflwynodd yr Athro Mitch Langford, cyd-gyfarwyddwr WISERD ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), ymchwil WISERD o’r prosiect a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), ‘Anghydraddoldebau, colled ddinesig a lles’, i’r pwyllgor newid hinsawdd, amgylchedd a seilwaith yn y Senedd. Roedd digwyddiad Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil (ARI) y Senedd yn cynnwys…

Adroddiad | Goblygiadau fframwaith cyfreithiol newydd i amddiffyn hawliau lleiafrifol

Y llynedd, 30 mlynedd ers i’r Cenhedloedd Unedig wneud datganiad ar Hawliau Personau sy’n Perthyn i Leiafrifoedd Cenedlaethol neu Ethnig, Crefyddol ac Ieithyddol, galwodd y Rapporteur Arbennig ar Hawliau Lleiafrifol, Fernand de Varennes, am gytundeb newydd i gydnabod a diogelu hawliau lleiafrifoedd yn well. Ar ran Sefydliad Coppieters, mae Dr Anwen Elias wedi ysgrifennu adroddiad sy’n ystyried…

Opera IDEAL ‘Y Bont/ The Bridge’

Yn gynharach eleni, fe berfformiodd y tîm IDEAL ‘The Bridge’, sef opera un act newydd am y profiad o fyw gyda dementia. Ysgrifennodd un aelod o’r gynulleidfa fod yr opera yn “ardderchog, yn procio’r meddwl ac mae angen ei darlledu ymhellach.” Mae’r tîm IDEAL wedi lansio ffilm o’r perfformiad Saesneg yn ddiweddar. Gwyliwch The Bridge…

Monitro mynediad at fannau cynnes

Mae papur a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Dr Andrew Price a’r Athrawon Gary Higgs a Mitchel Langford ym Mhrifysgol De Cymru wedi tynnu sylw at amrywiadau daearyddol o ran mynediad at fannau cynnes yng Nghymru. Mae mannau cynnes yn rhoi cyfle i helpu aelwydydd i geisio lleihau effaith biliau ynni cynyddol yn ystod misoedd y…

Etholwyd yr Athro W. John Morgan yn Athro Er Anrhydedd ym Mhrifysgol Iorddonen

Mae’r Athro W. John Morgan, Cymrawd Emeritws Leverhulme, yn WISERD, wedi’i ethol yn Athro Anrhydeddus, Ysgol Gwyddorau Addysgol, Prifysgol Iorddonen. Mae hyni gydnabod ei gyfraniad at addysg gymharol a rhyngwladol a datblygiad cymdeithasol. Ymhlith ei benodiadau niferus, mae’r Athro Morgan wedi bod yn Gadeirydd Comisiwn Cenedlaethol y Deyrnas Unedig ar gyfer UNESCO; aelod o Bwyllgor…

Caerdydd yw dinas gyntaf y DU sy’n Gyfeillgar i Blant (UNICEF)

Mae cyfoeth o arbenigedd yn ymchwil y gwyddorau cymdeithasol wedi helpu Caerdydd i ddod yn Ddinas gyntaf y DU sy’n Gyfeillgar i Blant, sef un o raglenni UNICEF. Dyfarnwyd y statws o bwys i’r ddinas i gydnabod y camau y mae Cyngor Caerdydd a’i bartneriaid, gan gynnwys Prifysgol Caerdydd, wedi’u cymryd yn ystod y pum…