Newyddion

Tyfu i fyny yng Nghymru: llywio amseroedd ansicr | Tystiolaeth o Astudiaeth Aml-garfan WISERD Addysg

Ar ddiwedd blwyddyn ysgol 2021-22, arolygon ni bobl ifainc ym Mlynyddoedd 8, 10 a 12 am eu profiadau o ddychwelyd i’r ysgol. Mae’r pandemig wedi cyfrannu at nifer uchel o absenoldebau ysgol ac ymddygiad heriol yn yr ystafell ddosbarth a gofynnon ni i’r disgyblion am faterion yn ymwneud ag absenoldebau a sut roedden nhw’n teimlo…

Yn ôl arolwg rhyngwladol, mae llesiant goddrychol plant Cymru yn ystod y pandemig yn is na’r cyfartaledd

Yn fy mlogiau blaenorol ym mhrosiect Bydoedd Plant, edrychon ni ar effaith y pandemig ar lesiant plant Cymru mewn perthynas â’r ysgol ac a ydyn nhw’n byw mewn ardaloedd trefol neu wledig yng Nghymru. Ar gyfer y drydedd ran hon, yr olaf, rydym bellach yn troi ein sylw at y modd y mae lefel gyffredinol…

Llwyddiant grant ymchwil i bartneriaeth rhwng academyddion ac ymarferwyr

Mae Dr Elizabeth Woodcock yn Gymrawd Ymchwil ar brosiect ymchwil Cymuned Ymarfer Rhagnodi Cymdeithasol. Arweinir y prosiect hwn gan Dr Koen Bartels, Athro Cyswllt yn y Sefydliad Llywodraeth Leol (Inlogov), Prifysgol Birmingham. The Active Wellbeing Society yw’r prif bartner ymchwil, sef Cymdeithas Budd Cymunedol a sefydlwyd yn 2017 gan Wasanaeth Lles Cyngor Dinas Birmingham. Meithrin…

Yr S.S. Empire Windrush a The London Trilogy a England, Half English gan Colin MacInnes

Ar 22 Mehefin eleni, mae’n 75 mlynedd ers dyfodiad yr S.S. Empire Windrush i Brydain; yn sgil hyn, rwyf wedi fy ysgogi i ailddarllen The London Trilogy gan Colin MacInnes, sy’n cynnwys City of Spades (1957), Absolute Beginners (1959) a Mr Love and Justice (1960).  Roedd MacInnes, a fu farw ym 1976, yn awdur a…

Archwilio cyfnodau pontio i addysg ôl-orfodol yng Nghymru

Mewn Cipolwg Data newydd gan YDG Cymru, edrychodd yr ymchwilwyr Dr Katy Huxley a Rhys Davies ar y trawsnewidiadau i addysg ôl-orfodol yng Nghymru. Cysylltodd y tîm ffynonellau data addysg Cymru, gan ganiatáu iddynt nodi nodweddion sy’n gysylltiedig â’r rhai sydd, a’r rhai nad ydynt, yn pontio i ddysgu pellach. Roedd y setiau data cysylltiedig yn…

Mae’r bwlch cyflogau rhwng y rhywiau a dilyniant gyrfa yn ehangu gyda phrofiad yn y sector addysgu yng Nghymru

Defnyddiodd dadansoddiad diweddar gan ymchwilwyr YDG Cymru ddata gweinyddol i amcangyfrif cynnydd gyrfa a gwahaniaethau cyflog ymhlith athrawon benywaidd a gwrywaidd ac arweinwyr ysgolion yng Nghymru. Gan ddefnyddio data gweinyddol dienw o Gyfrifiad Blynyddol y 2019 a 2020 (SWAC), canfu ymchwilwyr addysg YDG Cymru fod 77% o’r gweithlu athrawon cymwys yn fenywod, fodd bynnag: Roedd gan 15% o…

Colli allan: yr aelwydydd sy’n profi amddifadedd lluosog yn ardaloedd lleiaf difreintiedig Cymru

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw mesur swyddogol Llywodraeth Cymru o amddifadedd cymharol (‘mewn trefn’) ar gyfer ardaloedd bychain yng Nghymru. Defnyddir MALlC gan y llywodraeth a sefydliadau eraill i dargedu gwasanaethau ar gyfer mynd i’r afael ag anfantais gymdeithasol. Er enghraifft, fel rhan o’i raglen i gynyddu mynediad i addysg uwch, mae Cyngor Cyllido…

Ydy ansawdd swyddi’n well neu’n waeth ar ôl y pandemig?

Mewn papur mynediad agored newydd, mae Rhys Davies a’r Athro Alan Felstead yn rhannu ambell gipolwg ar ddata cwis a gasglwyd cyn ac ar ôl Covid-19 i archwilio pa effeithiau tymor byr y mae’r pandemig wedi’u cael ar ansawdd swyddi yn y DU. Mae’r canlyniadau’n dangos bod ansawdd nad yw’n gysylltiedig â thâl wedi gwella,…