Mae ein hymchwil ryngddisgyblaethol yn rhychwantu meysydd economeg, cymdeithaseg, daearyddiaeth a’r gwyddorau gwleidyddol, sydd wedi’u grwpio yn ôl y themâu isod. Mae rhagor o wybodaeth am ein rhwydweithiau ymchwil isod, hefyd.
Mae WISERD wedi sicrhau £1.6m o gyllid gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol UKRI (ESRC) ar gyfer y rhaglen ymchwil tair blynedd, ‘Pobl, Lleoedd a’r Maes Cyhoeddus‘. Bydd y rhaglen yn edrych ar ffyrdd y gall cyfranogiad pobl mewn gweithgareddau democrataidd, llywodraethu cydweithredol a gwyddoniaeth y dinesydd fynd i’r afael â chyd-heriau brys.
Rydym wedi ymrwymo i wella ansawdd ymchwil y gwyddorau cymdeithasol a faint ohoni sy’n cael ei gwneud, yng Nghymru a thu hwnt, er budd polisïau ac ymarfer ar draws ystod o sectorau a chymunedau.