Newyddion

Mae YDG Cymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr glodfawr y Gwasanaeth Sifil

Mae tîm YDG Cymru o fewn Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr y Gwasanaeth Sifil, un o’r anrhydeddau mwyaf uchel eu parch sy’n cydnabod rhagoriaeth ar draws Gwasanaeth Sifil y DU. Mae Gwobrau’r Gwasanaeth Sifil yn dathlu cyflawniadau rhagorol ar draws y llywodraeth, gan arddangos unigolion ysbrydoledig a phrosiectau arloesol sy’n darparu manteision gwirioneddol…

Ymchwil newydd ar system fudd-daliadau ‘seiliedig ar hawliau’ Cymru

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae pwyllgorau seneddol olynol wedi argymell ehangu’r system fudd-daliadau ddatganoledig yng Nghymru. Yn 2024, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru mai ei nod oedd: ‘Dull tosturiol a chyson sy’n canolbwyntio ar y person o ddylunio a darparu budd-daliadau yng Nghymru, wedi’i ategu gan egwyddorion Siarter Budd-daliadau Cymru‘ – yn cynnwys tosturi, cydraddoldeb a hawliau…

WISERD yn cydweithio â Strike Map i integreiddio data newydd ar gryfder undebau

Mewn cydweithrediad newydd cyffrous, mae data UnionMaps WISERD wedi’u hintegreiddio i Strike Map, map o weithredu diwydiannol sy’n cael ei ysgogi a’i ariannu gan weithwyr, sydd wedi mapio 230,000 o streiciau ers 2020. Bydd ymarferoldeb cyfunol y ddau blatfform yn caniatáu i ddefnyddwyr weld cryfder undebau yn yr ardaloedd lle mae gweithredu diwydiannol yn digwydd….

YDG Cymru yn Sicrhau Cyllid Mawr i Barhau ag Ymchwil Data Hanfodol Hyd at 2031

Mae YDG Cymru wedi cael bron i £26 miliwn i barhau â’i waith arloesol gan ddefnyddio data gweinyddol i lywio polisi cyhoeddus a gwella bywydau ledled Cymru. Bydd y cyllid yn rhedeg o 2026-2031 a chafodd ei gyhoeddi’n swyddogol heddiw gan y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS yn ystod ei anerchiad i gynrychiolwyr yng Nghynhadledd…

Gall datganoli a chymdeithas sifil helpu i greu gwrth-naratif ar gyfer ceiswyr lloches

Ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn y DU Ym mis Mawrth eleni, roedd dros 100,000 o bobl yn ceisio lloches yn y DU. Roedd 30% o’r bobl hyn yn byw mewn gwestai, gyda phob un wedi’u gwahardd rhag gweithio ac yn derbyn £7 y dydd i dalu am anghenion sylfaenol. Mae’r DU wedi cael dros 3,000…

Prosiect nodedig i astudio etholiad Seneddol 2026

Mae Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) UKRI wedi dyfarnu mwy na £1m i dîm ymchwil o brifysgolion Abertawe ac Aberystwyth i arwain Astudiaeth Etholiad Cymru 2026 (WES 2026), prosiect pedair blynedd a fydd yn darparu data arolwg diduedd o ansawdd uchel ar agweddau gwleidyddol ac ymddygiad pleidleisio yng Nghymru Mae’r cydweithrediad yn dwyn ynghyd…