Newyddion

CWPS i arwain prosiect newydd mawr i gefnogi datblygiad cynaliadwy cynhwysol yng Nghymru Wledig

Mae tîm dan arweiniad Cyd-gyfarwyddwr WISERD-CWPS Michael Woods wedi derbyn dros £5m gan UKRI i sefydlu Cymru Wledig LPIP Rural Wales, y Bartneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol ar gyfer Cymru Wledig. Mae’r bartneriaeth yn cynnwys aelodau CWPS Lowri Cunnington Wynn a Rhys Jones yn ogystal ag ymchwilwyr ym mhrifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd a Swydd Gaerloyw…

Safbwyntiau cymdeithas sifil ar AI yn yr UE

Yn rhan o’r astudiaeth WISERD ‘Meysydd ehangu dinesig newydd: pobl, anifeiliaid a Deallusrwydd Artiffisial (AI)’, fe gyflwynon ni ymchwil newydd mewn digwyddiad WHEB ym Mrwsel y mis diwethaf. Mae’r ymchwil yn nodi barn a phryderon sefydliadau cymdeithas ddinesig (CSOau) am Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) yn yr UE. Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn deddfu er mwyn cydlynu’r fframwaith…

WISERD yn cyflwyno ymchwil cymdeithas sifil i lunwyr polisïau ym Mrwsel

Ar 25 Ionawr, cynhaliwyd gweithdy gan Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) ac Addysg Uwch Cymru Brwsel (WHEB) ar gyfer llunwyr polisïau ym Mrwsel, ac fe gyflwynwyd achos dros roi ymchwil cymdeithas sifil wrth wraidd cynlluniau ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd. Yn ddiweddarach eleni, bydd aelodau’r Cyngor Ewropeaidd yn cyfarfod i gytuno…

”Nonsens ar stilts”? 75 mlynedd ers cyhoeddi’r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol

Yn Anarchical Fallacies (1796), dywedodd yr athronydd iwtilitaraidd Seisnig Jeremy Bentham fod y cysyniad o hawliau naturiol yn nonsens ac mai ‘nonsens ar stilts’ oedd hawlio hawliau nad ydynt wedi’u rhagnodi yng nghyfreithiau’r wladwriaeth. Dadleuodd fod drysu dymuno bod gennym hawl gyda bodolaeth yr hawl ei hun yn gamsyniad llwyr. Ar ben hynny, rhoddir yr…

Cyflwynwyd ymchwil Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) yn y Senedd

Ar 30 Tachwedd, cyflwynodd yr Athro Mitch Langford, cyd-gyfarwyddwr WISERD ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), ymchwil WISERD o’r prosiect a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), ‘Anghydraddoldebau, colled ddinesig a lles’, i’r pwyllgor newid hinsawdd, amgylchedd a seilwaith yn y Senedd. Roedd digwyddiad Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil (ARI) y Senedd yn cynnwys…

Adroddiad | Goblygiadau fframwaith cyfreithiol newydd i amddiffyn hawliau lleiafrifol

Y llynedd, 30 mlynedd ers i’r Cenhedloedd Unedig wneud datganiad ar Hawliau Personau sy’n Perthyn i Leiafrifoedd Cenedlaethol neu Ethnig, Crefyddol ac Ieithyddol, galwodd y Rapporteur Arbennig ar Hawliau Lleiafrifol, Fernand de Varennes, am gytundeb newydd i gydnabod a diogelu hawliau lleiafrifoedd yn well. Ar ran Sefydliad Coppieters, mae Dr Anwen Elias wedi ysgrifennu adroddiad sy’n ystyried…

Opera IDEAL ‘Y Bont/ The Bridge’

Yn gynharach eleni, fe berfformiodd y tîm IDEAL ‘The Bridge’, sef opera un act newydd am y profiad o fyw gyda dementia. Ysgrifennodd un aelod o’r gynulleidfa fod yr opera yn “ardderchog, yn procio’r meddwl ac mae angen ei darlledu ymhellach.” Mae’r tîm IDEAL wedi lansio ffilm o’r perfformiad Saesneg yn ddiweddar. Gwyliwch The Bridge…