Prosiectau Ymchwil

Sort by: |
Your search returned 157 results
Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth 2023

Trosolwg O ystyried newidiadau cymdeithasol a pholisïau diweddar, mae’r DU yn wynebu angen cynyddol i wybod sut mae’r byd gwaith wedi newid.  Nod cyffredinol yr Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth 2023 (ASC2023) yw casglu data arolwg cadarn ar sgiliau a phrofiadau cyflogaeth pobl 20-65 oed sy’n gweithio ym Mhrydain yn 2023. Bydd ASC2023 yn ychwanegiad gwerthfawr…

Rhwydwaith Ymchwil Ymfudo Cymru

Mae’n bleser gennym gyhoeddi lansiad Ymchwil Mudo Cymru. Rhwydwaith ymchwil newydd yw hwn, a gydlynir gan Dr Catrin Wyn Edwards a Rhys Dafydd Jones (ill dau o Brifysgol Aberystwyth). Ymrwyma’r rhwydwaith i ddatblygu capasiti ymchwil, ac i annog deialog rhwng academyddion mewn sefydliadau Cymreig, a rhwng academyddion ac ymarferwyr. Mae ymfudo yn thema sydd wedi…

Rhwydwaith Lles

Mae’r rhwydwaith hwn ar gyfer academyddion sydd wrthi’n gwneud ymchwil ryngddisgyblaethol a/neu amlddisgyblaethol i les ac yn ei hyrwyddo ar draws meysydd polisi ac mewn cyd-destunau statudol ac anstatudol sy’n seiliedig ar ymarfer. Mae’r rhwydwaith yn ceisio hyrwyddo ymchwil i les, a hynny mewn gwahanol ddisgyblaethau sy’n cynnwys athroniaeth gymdeithasol a gwleidyddol, polisi cymdeithasol, cymdeithaseg,…

Live pilot: the School Governor Reflections Resource

Aim The project has these two primary aims: Promote engagement with the School Governors Reflections Resource; Ensure the sustainability of the resource over the medium term (next 12 – 24 months). We also hope the project will allow us to explore further opportunities to research how school governors in Wales can be more effectively supported…

Arbenigwyr, arbenigedd a gwyddoniaeth dinasyddion: astudiaeth achos o fonitro ansawdd aer

Mae dadleuon amgylcheddol yn aml yn ymwneud â gwybodaeth ac arbenigedd gymaint ag y maent am wleidyddiaeth, hawliau a chyfleoedd bywyd. Y rheswm am hynny yw bod y dystiolaeth a gynhyrchir gan y gwahanol grwpiau dan sylw yn aml yn rhan o’r ddadl. Ceir anghydfodau ynghylch yr hyn sy’n hysbys ac nad yw’n hysbys, gan…

New Emerging Citizenship Regimes

New Emerging Citizenship Regimes explores five citizenship ideal types (Pandemic, Algorithmic, Liquid, Metropolitan, and Stateless) stemming from critical/radical social innovation perspective by employing fieldwork action research in six specific city-regional cases. COVID-19 has hit European citizens dramatically, not only creating a general risk-driven environment encompassing a wide array of economic vulnerabilities but also exposing them…

Parhad dysgu yng Nghymru: Dadansoddiad ‘byw’ o ddysgu ar-lein

Crynodeb Mae Cymru yn unigryw oherwydd bod ganddi blatfform digidol cenedlaethol ar gyfer addysgu a dysgu ar-lein – Hwb (https://hwb.gov.wales/). Mae hyn yn golygu bod bron pob plentyn mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn mewngofnodi ac yn defnyddio Hwb i gael mynediad at ddeunyddiau dysgu a ddarperir iddynt gan ysgolion ac athrawon. Bydd y…

Hwb Deilliannau Cynhyrchedd Ymarfer, Ymgysylltu a Dysgu yn y Gweithle (PrOPEL)

Yn dechrau fis Ionawr 2020, mae WISERD yn rhan o gydweithrediad a ariennir gan ERSC o’r enw Hwb Deilliannau Cynhyrchedd Ymarfer, Ymgysylltu a Dysgu yn y Gweithle (PrOPEL). Dan arweiniad Prifysgol Strathclyde, mae Hwb PrOPEL yn dod â phump o fuddsoddiadau ynghyd a ariannwyd gan ESRC yn ddiweddar sy’n gweithio ym maes cynhyrchedd.  Nod Hwb…

Rhwydwaith Ymchwil WISERD am yr Economi Sylfaenol

Ac yntau’n cael ei reoli gan Karel Williams ym Mhrifysgol Manceinion, mae gan y rhwydwaith hwn wefan yn bwrpasol ar gyfer maes datblygedig Ysgolheictod ac Arferion Sylfaenol (https://foundationaleconomy.com/) ac aelodau o sefydliadau rhanddeiliaid a sefydliadau academaidd, sy’n cyfarfod yn rheolaidd yng Nghaerdydd.  Mae’r rhwydwaith wedi adeiladu ar gyllid a roddwyd i Kevin Morgan o Gyfrif…

Youth unemployment and civil society under devolution: a comparative analysis of sub-state welfare regimes

Overview:  This ESRC funded project aims to identify, categorise and compare scales and types of civil society involvement in youth unemployment policy between the four devolved nations of the UK. In doing so it will examine the implications of these differences for both youth unemployment provision and devolved policy arrangements. The broader aim is to…

Apeliadau Brys: Data a Phrosiect Rhannu Dysgu ESRC GCRF

Mae hwn yn brosiect gan gydweithwyr yn Ysgol Busnes Caerdydd a WISERD mewn cydweithrediad â’r  Ymgyrch Dillad Glân (CCC). Mae’n seiliedig ar ddyfarniad IAA cynharach ESRC a gwblhawyd ym mis Mawrth 2019. Ffocws ein gwaith yw gwella a datblygu’r gronfa ddata a ddefnyddir gan CSC i gofnodi a monitro ei fecanwaith Apeliadau Brys. Mae CSC…

Ffurfiau newidiol ar lywodraethu a gwleidyddiaeth llawr gwlad ymwahaniaeth

Bydd Ffurfiau newidiol ar lywodraethu a gwleidyddiaeth llawr gwlad ymwahaniaeth yn cynnal astudiaethau achos cymharol mewn rhanbarthau lle mae mudiadau ymwahaniaethol ar waith i ddeall canfyddiadau ac ymgysylltu mewn gwrthdaro ymwahaniaethol o’r gwaelod i fyny. Y dyddiad dechrau a ddarperir yw dyddiad dechrau Canolfan Cymdeithas Sifil WISERD. Bydd gan becynnau gwaith eu dyddiadau cychwyn a…

Nawddogaeth, elîtau a pherthnasau pŵer

Mae Nawddogaeth, elîtau a pherthnasau pŵer yn ystyried systemau nawddogaeth o fewn cymdeithas sifil a’r cysylltiadau rhwng cymdeithas sifil, haeniad dinesig a ffurfio elîtau. Mae’n ystyried gwreiddiau a phenllanw noddwyr mewn sefydliadau cymdeithas sifil, yn ogystal ag arwyddocâd sefydliadau addysgol gwahanol a phroffiliau galwedigaethol wrth roi mynediad breintiedig i safleoedd elît mewn cymdeithas sifil. Y…

Poblyddiaeth, gwrthdaro a pholareiddio gwleidyddol

Mae Poblyddiaeth, gwrthdaro a pholareiddio gwleidyddol yn ystyried y cysylltiadau rhwng ymddygiadau gwleidyddol newidiol a newidiadau i strwythurau cyflogaeth, yn ogystal â sut y caiff gwleidyddiaeth boblyddol ei meithrin mewn llefydd a sut y call cymdeithas sifil weithredu i fynd i’r afael â hyn. Y dyddiad dechrau a ddarperir yw dyddiad dechrau Canolfan Cymdeithas Sifil…

Archif digidol o adroddiadau blynyddol

Mae tîm ymchwil Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD), sy’n cynnwys yr Athro Paul Chaney, Dr Christala Sophocleous a’r Athro Daniel Wincott, wedi gweithio gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) a Llyfrgell Genedlaethol Cymru i greu archif digidol sy’n arwyddocaol yn hanesyddol o adroddiadau blynyddol CGGC a’i sefydliadau rhagflaenol.  Rydym yn…

Anghydraddoldeb, colled ddinesig a lles

Mae Anghydraddoldeb, colled ddinesig a lles yn defnyddio dulliau arloesol, gan gynnwys arolygon drwy appiau ar symudedd gofodol a chysylltiadau data, i gymharu mesurau hygyrchedd unigol a seiliedig ar lefydd, ac ystyried sut y mae patrymau newidiol colled ac enillion dinesig yn gysylltiedig â mesurau iechyd a lles. Y dyddiad dechrau a ddarperir yw dyddiad…

Rhaniadau hunaniaeth a dinesig yn y DU

Mae Rhaniadau hunaniaeth a dinesig yn y DU yn ystyried y berthynas rhwng ffurfiau gwahanol ar hunaniaeth (anabledd, rhywioldeb, crefydd) a chyfranogiad gwleidyddol a lles. Mae’n ystyried a oes gallu gwahanol gan grwpiau hunaniaeth wrth arfer hawliau, ac esboniadau posibl ar gyfer unrhyw wahaniaethau. Y dyddiad dechrau a ddarperir yw dyddiad dechrau Canolfan Cymdeithas Sifil…

Peiriannau, platfformau a galluoedd

Mae Peiriannau, platfformau a galluoedd yn defnyddio dulliau cymysg o archwilio arwyddocâd sectorau gwahanol yn yr economi gig o fewn marchnadoedd llafur lleol, ac mae’n cynnwys astudio dewisiadau amgen cydweithredol a ffurfiau mwy amlwg o gyfalafiaeth blatfform. Y dyddiad dechrau a ddarperir yw dyddiad dechrau Canolfan Cymdeithas Sifil WISERD. Bydd gan becynnau gwaith eu dyddiadau…