Mae tîm ymchwil Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD), sy’n cynnwys yr Athro Paul Chaney, Dr Christala Sophocleous a’r Athro Daniel Wincott, wedi gweithio gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) a Llyfrgell Genedlaethol Cymru i greu archif digidol sy’n arwyddocaol yn hanesyddol o adroddiadau blynyddol CGGC a’i sefydliadau rhagflaenol.  Rydym yn hynod o falch i allu cyflwyno’r adnodd hwn yn gyhoeddus am ddim i haneswyr cymdeithasol, ymchwilwyr, a phobl gyffredinol chwilfrydig.

Mae hanes hir ac amrywiol i CGGC, o gefnogi ‘glowyr di-waith a’u gwragedd’ yn y 1930au, i ddatblygu hyfforddiant mewn cymunedau gwledig yn y blynyddoedd ar ôl y rhyfel, sefydlu pwyllgorau ar faterion penodol a dyfodd yn sefydliadau annibynnol a elwir heddiw yn Anabledd Cymru ac Age Cymru, ac, yn fwy diweddar, cynnig cynrychiolaeth ffurfiol i’r sector gwirfoddol mewn partneriaeth â’r llywodraeth. Heddiw, bydd CGGC yn gyfarwydd i’r rhan fwyaf o gyrff cymdeithas sifil Cymru fel darparwr gwasanaethau cymorth uniongyrchol i’r sector gwirfoddol ac fel corff cynrychioliadol sy’n gweithio gyda’r llywodraeth. Fodd bynnag, mae wedi chwarae sawl rôl wahanol dros y blynyddoedd, gan symud ei ffocws a’i gyfeiriad wrth i anghenion, polisïau a gwleidyddiaeth newid. Mae’r adnodd gwerthfawr hwn nid yn unig yn olrhain hanes CGGC, ond mae hefyd yn cynnig mewnwelediad hynod werthfawr i gymdeithas sifil yng Nghymru, a’r ystyriaethau a’r trafodaethau a’i ffurfiodd.

Yn yr archif ceir deunyddiau ffynhonnell gynradd i’r bobl hynny sydd â diddordeb mewn materion amrywiol, gan gynnwys cysyniad newidiol gwirfoddoli, dealltwriaeth a diben ‘gwaith gwirfoddol’, a’r berthynas rhwng y sector – a gaiff ei alw’n ‘wasanaethau cymdeithasol gwirfoddol’, ‘cyrff gwirfoddol’, neu ‘y trydydd sector’ – a llywodraeth a’r wladwriaeth les.
Yn yr archif ceir adroddiadau blynyddol CGGC rhwng 1934/35 a 1939/40, pan fu’n gweithredu fel ‘Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol De Cymru a Sir Fynwy’, a phob adroddiad blynyddol yn ddi-dor ar gyfer y blynyddoedd 1947 i 2018/19, trwy dri newid enw a diwygiad o ran ffocws. Mae pob adroddiad blynyddol ar gael fel un ddogfen PDF chwiliadwy y gellir ei lawrlwytho.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Dr Christala Sophocleous.

Mae’r gwaith hwn yn rhan o’n hymchwil cymdeithas sifil a’r prosiect ‘Ymddiriedaeth, hawliau dynol a chymdeithas sifil o fewn economïau lles cymysg‘.

Telerau defnyddio

Mae’r archif digidol hwn yn cynnwys adroddiadau blynyddol Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol De Cymru a Sir Fynwy, Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Sir Fynwy, Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar gyfer y cyfnod 1934–2019 (ac eithrio’r blynyddoedd 1941–46).

Mae’r ffeiliau hyn wedi’u digideiddio gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, ac maent ar gael fel adnodd mynediad agored rhad ac am ddim gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC). Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch yr archif a’r deunyddiau sydd wedi’u cynnwys ynddo at CGGC, naill ai dros y ffôn (0300 111 0124) neu drwy gwblhau’r ffurflen gyswllt ar ei wefan yn www.wcva.cymru.

Dylid trafod unrhyw ddefnydd masnachol posibl o’r archif digidol hwn yn uniongyrchol â deiliad yr hawlfraint, CGGC. Gellir cysylltu ag ef drwy ei wefan yn www.wcva.cymru.

Dylid cydnabod bod defnydd anfasnachol o’r archif digidol, er enghraifft dyfyniadau neu ddefnyddio ffotograffau, wedi’i roi gan ddeiliad yr hawlfraint (CGGC) a rhaid cynnwys y manylion canlynol: enw’r sefydliad, blwyddyn yr adroddiad blynyddol, a rhif y dudalen neu rifau’r tudalennau). Bydd arddulliau cyfeirio yn amrywio, ond byddai system gyfeirnodi Harvard, er enghraifft, yn dilyn y patrwm canlynol:

Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Sir Fynwy (1952), Adroddiad Blynyddol, Caerdydd, Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Sir Fynwy, 1952: 3-5

Degawd: 1940s