Newyddion

Dyfarniad Ysgoloriaeth Preswyl Fulbright i Dr Igor Calzada

Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Preswyl Fulbright (SIR) i Dr Igor Calzada ym Mhrifysgol Talaith Califfornia, Bakersfield (CSUB) ar gyfer blwyddyn academaidd 2022-2023 gan Adran y Wladwriaeth. Cafodd y wobr ei chydlynu gan Gomisiwn Fulbright UDA-DU. Mae pwyllgor adolygu Rhaglen SIR Fulbright a gynullwyd gan Gyngor Cyfnewid Rhyngwladol Ysgolheigion (CIES) IIE a Bwrdd Ysgoloriaeth Dramor Fulbright (FFSB) wedi…

Y pandemig a thu hwnt – canfyddiadau diweddaraf Astudiaeth Aml Garfan Addysg WISERD

Mae’r data diweddaraf a gasglwyd fel rhan o Astudiaeth Aml Garfan Addysg WISERD (WMCS) yn datgelu’r lefelau uwch o bryder a brofir gan bobl ifanc yn ystod y cyfyngiadau symud ac effeithiau parhaus tyfu i fyny yng Nghymru ar ôl y pandemig. Roedd bron pob un (93%) o’r disgyblion yn teimlo bod y pandemig wedi…

Ymchwilio i anghydraddoldebau daearyddol o ran mynediad at gartrefi gofal a phreswyl

Mae papur newydd gan WISERD yn tynnu sylw at sut y gall dulliau daearyddol gyfrannu at ddealltwriaeth o anghydraddoldebau o ran mynediad at gartrefi gofal a phreswyl yng Nghymru. Cynhaliwyd yr ymchwil gan gyd-gyfarwyddwyr WISERD, yr Athro Gary Higgs a Dr Mitchel Langford, ynghyd â Chysylltydd WISERD, yr Athro Mark Llewellyn, Cyfarwyddwr Sefydliad Iechyd a…

Adroddiad ‘Towards Justice’ yn galw am gydweithio er mwyn cefnogi dioddefwyr niwed yn y gorffennol

Mae adroddiad gan yr elusen addysgiadol Cumberland Lodge yn galw ar heddlu, gwleidyddion a gwneuthurwyr polisi i gydweithio’n agosach er mwyn ymateb i niweidiau o’r gorffennol – a rhoi anghenion dioddefwyr, goroeswyr a’u teuluoedd wrth galon hyn. Un o’r argymhellion allweddol a geir yn Towards Justice: Law Enforcement & Reconciliation gan Martina Feilzer (cyd-gyfarwyddwr WISERD), Athro mewn…

Safbwyntiau Newydd ar Ymfudo: Symposiwm Rhithiwr ar gyfer Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa a Myfyrwyr Ôl-raddedig

Cynhaliodd Rhwydwaith Ymchwil Ymfudo Cymru symposiwm ar-lein ar 19 Ionawr ar gyfer ôl-raddedigion ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa sy’n gweithio ar faterion sy’n ymwneud ag agweddau o ymfudo yng Nghymru neu sydd wedi’u lleoli mewn sefydliadau yng Nghymru. Thema’r symposiwm oedd ‘Safbwyntiau Newydd ar Ymfudo’. Roedd y cyflwyniadau’n ymdrin â meysydd ymchwil yn amrywio o Eidalwyr…

Cyllid £17 miliwn ar gyfer ymchwil data cydweithredol yng Nghymru

Mae disgwyl i fenter sydd wedi trawsnewid sut y gall data gweinyddol dienw gael eu defnyddio’n ddiogel i roi cipolwg ar faterion cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru barhau, diolch i fuddsoddiad o bron £17 miliwn. Mae Ymchwil Data Gweinyddol Cymru (YDG Cymru) wedi cael £16,985,944 tan 2026 fel rhan o fuddsoddiad Ymchwil Data Gweinyddol y DU (ADR UK)…

Dr Igor Calzada ar restr o 100 o’r Academyddion Mwyaf Dylanwadol yn y Llywodraeth

Mae Dr Igor Calzada yn ymddangos ar restr Apolitical o 100 o’r Academyddion Mwyaf Dylanwadol yn y Llywodraeth. Gwahoddwyd gweision sifil i enwebu’r academyddion sydd fwyaf dylanwadol i waith y llywodraeth. Mae gwaith Dr Calzada yn plethu trawsnewidiadau digidol, trefol a gwleidyddol, gan roi sylw arbennig i lywodraethau rhanbarthol ar 1. dinasyddiaeth dinas glyfar, 2. meincnodi…

Llyfr newydd ar weithio o bell

Bydd llyfr yr Athro Alan Felstead ar leoliadau gwaith sy’n newid, yn cael ei gyhoeddi ar 21 Ionawr. Mae gweithio gartref wedi dod yn gwbl amlwg yn fyd-eang dros y ddwy flynedd ddiwethaf, wrth i wleidyddion gynghori ac weithiau roi cyfarwyddyd, y dylai’r rheini sy’n gallu, weithio gartref, er mwyn lleihau lledaeniad coronafeirws. Mae Gweithio…