Newyddion

Dr Dan Evans yn lansio llyfr newydd ‘A Nation of Shopkeepers’ yn Waterstones, Caerdydd

Ddydd Mercher 12 Ebrill, bydd Dr Dan Evans yn lansio ei lyfr newydd: ‘A Nation of Shopkeepers: The Unstoppable Rise of the Petty Bourgeoisie’  yn Waterstones, Caerdydd. Bydd Dan yn y siop yn trafod ei lyfr, a fydd ar gael i’w brynu ar y diwrnod. Mae tocynnau ar gyfer lansiad y llyfr ar gael ar…

Mae ymchwilwyr WISERD yn cyflwyno eu canfyddiadau am ansawdd swyddi athrawon

Cyflwynodd Katy Huxley, Alan Felstead (WISERD) a Francis Green (UCL) ganlyniadau cyntaf eu hymchwil ar newid yn ansawdd swyddi athrawon mewn digwyddiad ymylol yng nghynhadledd flynyddol yr Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) yn Harrogate heddiw (3 Ebrill 2023). Mae’r dystiolaeth yn seiliedig ar brosiect ymchwil a gynhaliwyd gan WISERD ym Mhrifysgol Caerdydd ac UCL. Mae’r canlyniadau’n…

Ymchwil ar gefnogaeth wledig i wleidyddiaeth aflonyddgar yn ennill grant Ewropeaidd sylweddol

Bydd y berthynas rhwng anfodlonrwydd etholwyr mewn ardaloedd gwledig a chefnogaeth i symudiadau gwleidyddol aflonyddgar yn Ewrop a’r Unol Daleithiau, yn destun astudiaeth o bwys gan athro o Brifysgol Aberystwyth, yn sgil dyfarnu grant uchel ei fri. Mae’r Athro Michael Woods wedi sicrhau cyllid o bron i €2.5 miliwn gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd (ERC)…

Pa mor bell allwch chi deithio o ble rydych chi’n byw ar wahanol ddulliau teithio? Mae Deall Lleoedd Cymru nawr yn dangos i chi

Mae’n debyg nad yw’n syndod clywed y gallwch deithio ymhellach mewn llai o amser wrth deithio ar drafnidiaeth breifat, megis mewn car, nag ar drafnidiaeth gyhoeddus gan ddefnyddio bws neu drên. Fodd bynnag, a ydych chi erioed wedi meddwl sut olwg sydd ar y gwahaniaeth hwn yn weledol ar gyfer y lle rydych chi’n byw…

Ben Bowen Thomas, Cymru, ac UNESCO

Papur newydd gan yr Athro W John Morgan, Athro Anrhydeddus, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, a Chymrawd Emeritws Leverhulme, WISERD, ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ystyried bywyd a gyrfa’r addysgwr oedolion, gwas sifil a diplomydd diwylliannol amlwg yng Nghymru, Syr Ben Bowen Thomas (1899-1977). Bu’r Athro Morgan yn Gadeirydd Comisiwn Cenedlaethol UNESCO y Deyrnas Unedig, 2010-2013. “Heb…

Chweched Cynhadledd yr Economi Sylfaenol: Archwilio’r Economi Sylfaenol ar gyfer Pontio Cyfiawn

14-16 Medi 2023 Prifysgol Technoleg, Fienna (TU Wien), Awstria Galwad am Bapurau a Chyfraniadau Rhwng 14 a 16 Medi 2023, byddwn yn croesawu’r 6ed Cynhadledd Economi Sylfaenol yng nghanol Fienna! Yn ystod ein cynhadledd bydd prif siaradwyr a sesiynau llawn, sesiynau cyfochrog yn ogystal â gweithgorau a theithiau cerdded yn y ddinas. Mae argyfyngau lluosog…

Llongyfarchiadau i’r Athro Mitch Langford

Llongyfarchiadau mawr i Gyd-gyfarwyddwr WISERD Mitchel Langford sydd wedi bod yn llwyddiannus yn y penodiadau Gwobrau Academaidd Uwch diweddaraf Mae Mitchel Langford wedi derbyn y teitl Athro mewn Dadansoddi Gofodol a Geo-wybodeg ym Mhrifysgol De Cymru. Mae diddordebau ymchwil Mitch yn cynnwys modelu hygyrchedd daearyddol a dadansoddi geo-ofodol ym meysydd gofal iechyd, anghydraddoldeb cymdeithasol a…

Ymchwil newydd yn edrych ar effeithiolrwydd arweiniad gyrfaoedd a sut mae’n cael ei flaenoriaethu

Mae ymchwil newydd a wnaed gan YDG Cymru wedi edrych ar effeithiolrwydd arweiniad gyrfaoedd wrth gefnogi cyfranogiad mewn addysg a hyfforddiant ôl-orfodol a sut caiff arweiniad gyrfaoedd ei flaenoriaethu. Defnyddiodd y gwaith, a wnaed gan ymchwilwyr YDG Cymru, Dr Katy Huxley a Rhys Davies, ddata dienw Gyrfa Cymru i archwilio sut mae’r cymorth gyrfaoedd a ddarperir i ddisgyblion cyfnod allweddol…

Effaith barhaus deddfwriaeth tryloywder ynghylch y bwlch cyflog rhwng y rhywiau

Ers mis Ebrill 2017, mae’n ofynnol i gyflogwyr y DU sydd â thros 250 o weithwyr roi gwybod i’r cyhoedd yn flynyddol am eu bylchau cyflog rhwng y rhywiau. O ran datblygiadau yn ymwneud â pholisïau a chanddynt y nod o fynd i’r afael â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, mae’n ddiamau mai cyflwyno deddfwriaeth…

Mae Dr Igor Calzada yn cyflawni’n llwyddiannus ei rôl fel Ysgolhaig Fulbright yng Nghaliffornia

Mae Dr Igor Calzada, Prif Gymrawd Ymchwil yn WISERD, wedi cwblhau ei rôl fel Ysgolhaig-preswyl Fulbright (S-I-R) 2022-23 ym Mhrifysgol Talaith California, Bakersfield (CSUB) drwy Gomisiwn Fulbright yr UD-DU. Cafodd Dr Calzada ei groesawu’n ffurfiol gan y brifysgol yn ystod derbyniad ar 10 Hydref 2022 (gallwch ddarllen y cyfweliad a gynhaliwyd cyn y digwyddiad, gwylio’r…