Newyddion

Cynhadledd Flynyddol WISERD 2022 – Galwad am Bapurau

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod y galwad am bapurau nawr AR AGOR ar gyfer Cynhadledd Flynyddol WISERD 2022. Cynhadledd Flynyddol WISERD 2022 Prifysgol Abertawe   Dydd Mercher 6 Gorffennaf a dydd Iau 7 Gorffennaf 2022 Thema ein Cynhadledd Flynyddol yw ‘Cymdeithas sifil a chymryd rhan: materion cydraddoldeb, hunaniaeth a chydlyniant mewn tirwedd gymdeithasol sy’n newid‘….

Lansio adnodd newydd i helpu pobl i gael y bywyd gorau posibl gyda dementia

Mae profiadau miloedd o bobl y mae dementia yn effeithio arnynt wedi cael eu defnyddio i greu adnodd newydd sydd â’r nod o fod yn ganllaw cynhwysfawr i gefnogi pobl i gael y bywyd gorau posibl gyda’r cyflwr. Mae ystod eang o gyngor, adnoddau a phrofiadau pobl wedi’u cynnwys ym Mhecyn Cymorth Byw gyda Dementia,…

Galwad am Bapurau – Rhwydwaith Ymchwil Mudo Cymru: Symposiwm Ymchwilydd Gyrfa Cynnar ac Ôl-raddedig

Mae Rhwydwaith Ymchwil Mudo Cymru yn falch o gyhoeddi symposiwm undydd (19eg Ionawr 2022) ar gyfer ôlraddedigion ac ymchwilwyr gyrfa ynnar (hunan-ddiffiniedig) sy’n gweithio ar agweddau ar fudo yng N ghymru neu wedi’u lleoli mewn sefydliadau yng Nghymru. Nod y symposiwm ar-lein yw darparu awyrgylch cefnogol i ymchwilwyr rannu eu syniadau ar waith drafft a derbyn sylwadau adeiladol….

Trafodaeth Genedlaethol am Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

Yn y rhifyn diweddaraf o The Welsh Agenda mae Dr Anwen Alias, cyd-gyfarwyddwr WISERD, Matthew Jarvis,  aelod o Fwrdd Gweithredol CWPS, a Mike Corcoran a Noreen Blanluet yn trafod ar ba ffurf y dylid cynnal trafodaeth genedlaethol ynglŷn â dyfodol cyfansoddiadol Cymru. Mae’r drafodaeth yn seiliedig ar y prosiect ‘Dyfodol Cyfansoddiadol’ sydd wedi’i leoli ym Mhrifysgol…

Un o gyd-gyfarwyddwr WISERD wedi’i phenodi’n aelod o’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

Mae Dr Anwen Elias, cyd-gyfarwyddwr WISERD ac arbenigwr ar wleidyddiaeth diriogaethol a chyfansoddiadol o Brifysgol Aberystwyth, wedi’i phenodi’n Gomisiynydd i’r Comisiwn Annibynnol newydd ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Roedd y Dr Elias, Darllenydd mewn Gwleidyddiaeth yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ymhlith y naw unigolyn a benodwyd yn y cyhoeddiad a wnaed yn y Senedd heddiw gan…

Ar eich beic: archwilio daearyddiaeth a hamdden gwaith cludwr ar feic

Mae Dr Wil Chivers, a benodwyd yn ddiweddar yn ddarlithydd gwyddorau gymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi cyflwyno canfyddiadau o’i ymchwil WISERD sy’n archwilio natur gwaith fel cludwr ar feic yn yr economi gig/platfformau, yng Nghynhadledd Gwaith, Cyflogaeth a Chymdeithas 2021. Mae’r papur, On Your Bike: Exploring the geography and leisure of work as a cycle…

Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol ESRC 2021

  Mae ymchwilwyr WISERD yn cynnal tair Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol a fydd yn rhoi sylw i ddiweithdra ymhlith pobl ifanc a chymdeithas sifil yng nghyd-destun datganoli, systemau bwyd cymunedol lleol a phrosiect gwyddoniaeth dinasyddion sy’n archwilio monitro ansawdd aer. Diweithdra ymhlith pobl ifanc a chymdeithas sifil yng nghyd-destun datganoli: cymhariaeth is-wladwriaeth 11 Tachwedd 2021 Mae’r…

Does neb yn Ynys ar Adeg Pandemig

Mae’r Athro John Morgan, ynghyd â Dr Ana Zimmermann o Brifysgol São Paulo, Brasil, wedi cyhoeddi ‘No One is a Island at a Time of Pandemic’ mewn rhifyn arbennig o Peace Review: Cyfnodolyn Cyfiawnder Cymdeithasol ar effaith gymdeithasol a diwylliannol COVID-19. Mae’r erthygl yn ystyried y cwestiwn moesegol sylfaenol ynghylch sut y caiff y cyfrifoldeb…

Yr Athro Jean Jenkins i arwain Comisiwn Dyfodol Datganoli a Gwaith TUC Cymru

  Yr Athro Jean Jenkins, Cyd-gyfarwyddwr WISERD ac Athro Cysylltiadau Cyflogaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd, i arwain comisiwn annibynnol ar ddyfodol hawliau cyflogaeth a datganoli yng Nghymru. Bydd y Comisiwn Dyfodol Datganoli a Gwaith, a sefydlwyd gan TUC Cymru, yn gyfrifol am ystyried yr effaith y mae’r trefniadau datganoli presennol yn ei chael ar ymdrechion…

Ymgynghoriad y Llywodraeth yn cyfeirio at adroddiad gwaith cartref WISERD

Adroddiad WISERD ar Gweithio Gartref yn y DU: Cyn ac Yn ystod Cyfnod Clo 2020, fe nodwyd mewn ymgynghoriad gan y llywodraeth ar wneud gweithio hyblyg yn ddiofyn. Mae’r ymgynghoriad agored yn ceisio barn unigolion a busnesau am gynigion i ddiwygio rheoliadau gweithio hyblyg (Rheoliadau Gweithio Hyblyg 2014). Mae’r adroddiad, gan Alan Felstead o Brifysgol…