Newyddion

Alan Felstead yn rhoi tystiolaeth i’r Senedd

Ar 11 Gorffennaf 2022, rhoddodd yr Athro Alan Felstead dystiolaeth i’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am ddeddfwriaeth sydd gerbron y Senedd ar hyn o bryd. Mae’r ddeddfwriaeth yn rhoi partneriaethau cymdeithasol wrth wraidd dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran sut y mae hi, a chyrff cyhoeddus y mae’n eu cefnogi, yn hyrwyddo llesiant ei…

Lansiad sbarc|spark yn dathlu arloesedd

Daeth ffigyrau amlwg o fyd ymchwil y gwyddorau cymdeithasol, y llywodraeth, byd diwydiant a’r sector gwirfoddol ynghyd i ddathlu dyfodiad sbarc|spark – Cartref Arloesedd Prifysgol Caerdydd. Mae’r adeilad, sydd wedi cael ei ddisgrifio’n ‘uwch-labordy’r gymdeithas’, yn gartref i grwpiau ymchwil a phartneriaid allanol SBARC – parc ymchwil gwyddorau cymdeithasol cyntaf y byd – ochr yn…

Athrawon WISERD yn cael eu hethol yn Gymrodyr i Gymdeithas Ddysgedig Cymru

Athrawon WISERD yn cael eu hethol yn Gymrodyr i Gymdeithas Ddysgedig Cymru Mae tri athro WISERD ymhlith y 66 Cymrawd newydd a etholwyd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru, sy’n cynrychioli pobl uchel eu parch o fywyd academaidd a dinesig yng Nghymru a thu hwnt. Mae’r Athro Martina Feilzer FHEA FLSW yn gyd-gyfarwyddwr WISERD, yn Athro Troseddeg…

‘Cynnal ein Dynoliaeth Gyffredin’

Mae’r Athro John Morgan yn eiriol dros ‘gynnal ein dynoliaeth gyffredin’ yn ei ychwanegiad diweddaraf i’r cyfnodolyn rhyngwladol, Weiterbildung. Mae’r erthygl yn ystyried enghreifftiau o ddelfrydiaeth a realaeth mewn achosion o gydweithio deallusol rhyngwladol a chyfnewidiadau addysgol. Bydd yr Athro John Morgan hefyd yn rhoi cyflwyniad ar y pwnc hwn, ar 7 Mehefin 2022, yn…

Dyfarniad Ysgoloriaeth Preswyl Fulbright i Dr Igor Calzada

Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Preswyl Fulbright (SIR) i Dr Igor Calzada ym Mhrifysgol Talaith Califfornia, Bakersfield (CSUB) ar gyfer blwyddyn academaidd 2022-2023 gan Adran y Wladwriaeth. Cafodd y wobr ei chydlynu gan Gomisiwn Fulbright UDA-DU. Mae pwyllgor adolygu Rhaglen SIR Fulbright a gynullwyd gan Gyngor Cyfnewid Rhyngwladol Ysgolheigion (CIES) IIE a Bwrdd Ysgoloriaeth Dramor Fulbright (FFSB) wedi…

Y pandemig a thu hwnt – canfyddiadau diweddaraf Astudiaeth Aml Garfan Addysg WISERD

Mae’r data diweddaraf a gasglwyd fel rhan o Astudiaeth Aml Garfan Addysg WISERD (WMCS) yn datgelu’r lefelau uwch o bryder a brofir gan bobl ifanc yn ystod y cyfyngiadau symud ac effeithiau parhaus tyfu i fyny yng Nghymru ar ôl y pandemig. Roedd bron pob un (93%) o’r disgyblion yn teimlo bod y pandemig wedi…

Ymchwilio i anghydraddoldebau daearyddol o ran mynediad at gartrefi gofal a phreswyl

Mae papur newydd gan WISERD yn tynnu sylw at sut y gall dulliau daearyddol gyfrannu at ddealltwriaeth o anghydraddoldebau o ran mynediad at gartrefi gofal a phreswyl yng Nghymru. Cynhaliwyd yr ymchwil gan gyd-gyfarwyddwyr WISERD, yr Athro Gary Higgs a Dr Mitchel Langford, ynghyd â Chysylltydd WISERD, yr Athro Mark Llewellyn, Cyfarwyddwr Sefydliad Iechyd a…

Adroddiad ‘Towards Justice’ yn galw am gydweithio er mwyn cefnogi dioddefwyr niwed yn y gorffennol

Mae adroddiad gan yr elusen addysgiadol Cumberland Lodge yn galw ar heddlu, gwleidyddion a gwneuthurwyr polisi i gydweithio’n agosach er mwyn ymateb i niweidiau o’r gorffennol – a rhoi anghenion dioddefwyr, goroeswyr a’u teuluoedd wrth galon hyn. Un o’r argymhellion allweddol a geir yn Towards Justice: Law Enforcement & Reconciliation gan Martina Feilzer (cyd-gyfarwyddwr WISERD), Athro mewn…