Newyddion

Papur newydd yn amlygu effaith trawsnewid diwydiannol mewn ardaloedd gwledig

Mae papur newydd yn y Journal of Rural Studies yn adrodd ar ymchwil o brosiect Global-Rural yr ERC a arweiniwyd gan CWPS-WISERD i archwilio trawsnewidiad diwydiannol pentref yn nwyrain Tsieina yng nghyd-destun globaleiddio. Cyd-awduron y papur yw Cyd-Gyfarwyddwr CWPS-WISERD, yr Athro Michael Woods, ynghyd â chyn-ôl-ddoethur CWPS-WISERD, Dr Francesa Fois (sydd bellach ym Mhrifysgol Salford),…

Trafod cryfhau democratiaeth yng Nghymru mewn cynhadledd am y cyfryngau

Bydd Cyd-Gyfarwyddwr CWPS-WISERD yn trafod sut i gryfhau democratiaeth yng Nghymru mewn cynhadledd amlwg ynghylch y cyfryngau yr wythnos hon. Cynhelir ‘Lleisiau’r Dinasyddion, Newyddion y Bobl: Sicrhau bod y Cyfryngau’n Gweithio dros Gymru’ yn y Sefydliad Materion Cymreig yng Nghaerdydd ddydd Iau 17 Tachwedd, ac mae’n cynnwys areithiau o bwys gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau…

Ymchwilwyr WISERD yn creu gwefan newydd i ymchwilio i hygyrchedd gwasanaethau allweddol yng Nghymru

Mae gwefan brototeip sy’n ymchwilio i hygyrchedd gwasanaethau allweddol yng Nghymru wedi’i datblygu gan ymchwilwyr WISERD yng Nghanolfan Ymchwil Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol Prifysgol De Cymru. Mae hyn yn rhan o raglen ymchwil barhaus sy’n ymchwilio i hygyrchedd daearyddol gwasanaethau yng Nghymru. Mae’r wefan yn galluogi defnyddwyr i weld pa mor hygyrch yw gwasanaethau allweddol, yn…

Cyhoeddi erthygl newydd ar fesur hygyrchedd gwasanaethau bancio

Mae erthygl newydd, mynediad agored mewn cyfnodolyn ar fesur hygyrchedd i wasanaethau bancio gan Dr Mitchel Langford, Andrew Price a’r Athro Gary Higgs o Brifysgol De Cymru, wedi’i chyhoeddi yn ISPRS International Journal of Geo-Information. Mae’r erthygl yn dangos sut y gellir mesur hygyrchedd i ganghennau banc ar wahanol adegau o’r dydd a thrwy ddulliau…

O Dŷ’r Arglwyddi i Senedd y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau?

Ar 4 Gorffennaf, adroddwyd ar wefan newyddion Nation.Cymru bod Anas Sarwar, arweinydd y Blaid Lafur yn yr Alban, ac aelod o Senedd yr Alban, wedi galw am Senedd newydd o’r Cenhedloedd a’r Rhanbarthau i gymryd lle Tŷ’r Arglwyddi. Wrth siarad â’r Gymdeithas Fabian yn San Steffan, dadleuodd Anas Sarwar: ‘nad oes lle i Dŷ’r Arglwyddi,…

ROBUST: Dychmygu dyfodol y Gymru wledig

Amlygodd pandemig Covid-19 a Brexit, gyda’i gilydd, lawer o’r heriau sy’n wynebu cefn gwlad Cymru, o fynediad gwael at wasanaethau a phobl ifanc yn symud i ffwrdd, i or-ganolbwyntio ar dwristiaeth a dibyniaeth ar farchnadoedd allforio Ewropeaidd. Ar yr un pryd, wrth i Gymru lywio’r adferiad ôl-bandemig a pharatoi polisïau a rhaglenni ôl-Brexit, ceir cyfleoedd…

IMAJINE: Ailystyried anghydraddoldebau tiriogaethol drwy gyfiawnder gofodol

Mae’r parhad yn yr anghydraddoldebau rhwng rhanbarthau, er gwaethaf dros dri degawd o ymyriadau o dan Bolisi Cydlyniant yr UE, yn broblem o bwys i Ewrop ac mae awydd cynyddol i ailystyried dulliau gweithredu. Dros y chwe blynedd diwethaf, mae WISERD ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi ceisio gwneud hynny drwy arwain prosiect mawr o’r enw IMAJINE…

Understanding Geographical Variation in Union membership: a patchwork quilt or a regional divide?

Today (25th May), the Department of Business Energy and Industrial Strategy (BEIS) released its latest figures for trade union membership. The long-term downward trend in union membership in the UK is well known.  Based on union records, trade union membership within the UK peaked in 1979 at approximately 13.2 million. Since then, there has been…